Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Arbenigwr yn cryfrannu ar Ymgynghoriad Byd ar Adnoddau Genynnol Dyfrol

Roedd yr Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor ymysg un o 13 arbenigwr byd-eang yn cymryd rhan mewn Ymgynghoriad Byd ar Adnoddau Genynnol Dyfrol Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig. Roedd hyn yn swyddfa Rhanbarth y Môr Tawel ac Asia yn Bangkok (28 Ionawr - 1 Chwefror 2013).

Yn ôl y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, gall yr ymgynghoriad esgor ar ffyrdd newydd o leihau newyn a thlodi drwy gatalogio a gwella adnoddau dyfrol genynnol ar gyfer bwyd ac amaeth. Nid yw’r mwyafrif o bysgod sy’n cael eu ffermio wedi eu dofi neu eu haddasu ar gyfer eu hamaethu i’r un graddau â chnydau neu dda byw, felly mae pysgod sy’n cael eu ffermio’n debycach i’w perthnasau gwyllt. Bu’r cyfarfod yn ystyried buddiannau gwelliannau genynnol drwy ddefnyddio technegau bridio traddodiadol, yn ogystal â thechnolegau modern ar gyfer cynyddu tyfiant, lleihau triniaethau a gwella cost-effeithiolrwydd dyframaeth.

Mae’r Athro Carvalho yn ymchwilio i wneuthuriad genynnol poblogaethau gwahanol  ymysg pysgod. Mae ganddo ddiddordeb mewn deall y grymoedd sy’n effeithio ar strwythur poblogaethau o bysgod yn y gwyllt, a sut mae’r strwythurau hyn yn dylanwadu ar addasiadau, goroesiad y boblogaeth a’i wasgariad. Mae o hefyd yn arbenigwr ar adnabod pysgod drwy eu genynnau. Fe arweiniodd broject tair blynedd werth 4 miliwn Ewro i ddiogelu stociau pysgod byd-eang trwy ddatblygu cyfryngau a fydd yn adnabod nid yn unig y math o bysgodyn, ond ei darddiad a'i oedran.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2013

Site footer