Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Astudiaeth newydd bwysig yn archwilio a all 'cof' coeden gynyddu ei gwytnwch

Bydd arbenigwyr yn y brifysgol yn cyfrannu at astudiaeth newydd bwysig sy'n archwilio a all coed gofio amodau sydd wedi achosi straen yn y gorffennol fel sychder neu afiechyd a throsglwyddo'r atgofion hyn i'w disgynyddion trwy addasiadau DNA yn seiliedig ar epigeneteg - newidiadau sy'n newid gweithgaredd rhai genynnau, heb newid y dilyniant DNA.

Bydd ehangu coed, coetiroedd a choedwigoedd y DU yn chwarae rhan bwysig yn gwireddu uchelgais y Llywodraeth i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Fodd bynnag, mae angen i'n tirluniau coed ddod yn fwy gwydn i bwysau fel newid yn yr hinsawdd, afiechydon, a galw cystadleuol am dir er mwyn gwrthdroi degawdau o ddirywiad mewn bioamrywiaeth ac ansawdd yr amgylchedd.

Bydd yr astudiaeth yn dechrau llenwi'r bylchau yn ein dealltwriaeth gyfyngedig bresennol o sut mae profiadau'r gorffennol yn effeithio ar addasu i wahanol bwysau amgylcheddol.

Mae project MEMBRA (Deall Cof Tirluniau Coed y DU ar gyfer Gwell Gwydnwch ac Addasu) dan arweiniad Prifysgol Birmingham, ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan Brifysgol Leeds, Prifysgol Caerlŷr, a Phrifysgol Bangor.

Bydd arbrawf amrywiaeth coed Prifysgol Bangor, BangorDiverse, yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i effaith sychder, cynnydd mewn carbon deuocsid, a straen a achosir gan afiechydon ar newidiadau i DNA, a phatrymau twf a marwolaeth coed dros amser.  Bydd eu hymchwil yn rhan o'r project sy'n cyfuno arbenigedd mewn Bioleg, Ecoleg, Clasuron, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

“Bydd MEMBRA yn darparu offer i nodi pa rywogaethau a phoblogaethau fydd yn cynnig gwell gwytnwch a’r gallu i addasu ac felly gellir eu defnyddio yn fwyaf effeithiol mewn strategaethau cadwraeth a phlannu,” eglurodd Dr Luna-Diez o Brifysgol Birmingham.

Dywedodd y cyd-ymchwilydd, Dr Andy Smith, Ecolegydd Coedwigaeth a Biogeocemegydd ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae BangorDiverse yn adnodd unigryw a fydd yn galluogi MEMBRA i archwilio sut mae amrywiaeth rhywogaethau coed yn dylanwadu ar wytnwch a gallu coedwigoedd i addasu i straen amgylcheddol.”

Dywedodd y cyd-ymchwilydd Dr Adriane Esquivel Muelbert, o Brifysgol Birmingham, sy'n arbenigo mewn ecoleg coedwigoedd fyd-eang: “Byddwn yn edrych ar y gorffennol i ddeall lefel y straen a brofwyd gan goetiroedd y DU a’r hyn y maent yn ei brofi yn awr trwy gael gwybodaeth o goedwigoedd a gafodd eu monitro ledled y DU ers degawdau. Bydd ecoleg a gweithrediad y coetiroedd hyn yn cael eu hintegreiddio i ddata moleciwlaidd sy'n ein galluogi i ddeall gallu coedwigoedd y DU i addasu i straen."

Mae'r project yn un o chwech i dderbyn cyfran o £10.5 miliwn gan UK Research and Innovation o’u Rhaglen Future of UK Treescapes a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o werth coed i bobl a'r blaned, ac yn cefnogi ehangu tirluniau coed ar draws y DU. Mae'r projectau'n datblygu offer a dulliau newydd a fydd yn helpu coed a choetiroedd i addasu i newid yn yr hinsawdd ac yn galluogi'r DU i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.

Bydd ymchwilwyr yn creu partneriaeth gyda Forestry England, The National Forest Company, Small Woods a Coed Lleol (Small Woods Wales) fel rhan o'r project. Unwaith y bydd y project yn dechrau, mae'r tîm yn awyddus i ddatblygu partneriaethau newydd gyda sefydliadau eraill sydd â diddordeb.

“Gall canlyniadau MEMBRA fwydo i ddatblygu polisiau a gweld y goedwig gyntaf a ysbrydolwyd gan y cof yn ffynnu - tirluniau coed MEMBRA,” ychwanegodd Dr Luna-Diez.

Dywedodd y Gweinidog Coedwigaeth yr Arglwydd Zac Goldsmith:

“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r rhaglen ymchwil newydd hon, a fydd yn pwysleisio pwysigrwydd tirluniau coed ac yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau plannu coed.

Yn y cyfnod yn arwain at COP26 mae hwn yn gyfle cyffrous i ddangos sut y gall gwyddoniaeth flaengar y DU ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r buddion iechyd ac amgylcheddol a ddarperir gan goed tra’n sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2021

Site footer