Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bang Goes the Theory yn dod i Fangor

Maggie Philbin a'r Athro Gary CarvalhoMaggie Philbin a'r Athro Gary CarvalhoYn dilyn yr helbul diweddar ynghylch cig ceffyl a ddarganfuwyd ynghanol cigoedd eraill, mae’r rhaglen wyddoniaeth boblogaidd Bang Goes the Theory (BBC 2 Cymru 18.30 Mawrth 8 Ebrill 2013/ Llun 8 Ebrill 19.30 BBC One ond nid yn y rhanbarthau) yn edrych ar sut  y gellir defnyddio technegau  genynnol (DNA) newydd i adnabod y pysgodyn ar eich plât.

Yn y rhaglen mae’r Athro Gary Carvalho o Brifysgol Bangor yn dangos i’r gyflwynwraig Maggie Philbin sut y  mae’r gallu i adnabod y pysgodyn yn ei phastai yn fodd i ddiogelu’r prynwr a’r stociau pysgod yn ein moroedd.

Bu’r Athro Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol yn arwain rhwydwaith Ewropeaidd o bwys a fu’n defnyddio proses ‘barcodio DNA’, a gydlynwyd gan Gonsortiwm Barcodio Bywyd. Bwriad y consortiwm yw defnyddio barcod DNA i adnabod pob rhywogaeth ar y ddaear. Bu hefyd yn cydlynu project a gwblhawyd yn ddiweddar, FishPopTrace, i ddatblygu dulliau o ddadansoddi DNA pysgodyn ac adnabod nid yn unig y rhywogaeth  ond hefyd y boblogaeth y perthyna’r pysgodyn iddi.

Mae bron i chwarter o ddaliadau pysgod ar draws y byd yn digwydd yn anghyfreithlon.  Mae’r pysgod hyn sy'n cael eu dal yn anghyfreithlon, heb eu cofnodi na'u rheoleiddio, yn cyfrif am ddwywaith gwerth y pysgod sy'n cael eu dal gan bysgotwyr yr Undeb Ewropeaidd.  Mae'r pysgodfeydd anghyfreithlon hyn yn tanseilio cynaliadwyedd poblogaethau pysgod ac ymdrechion i greu marchnad gynaliadwy a gwerthfawr ar gyfer pysgod.

Fel yr esbonia’r Athro Carvalho:

Wrth geisio gwarchod cynaliadwyedd ein stociau pysgod,  un broblem fawr ar hyn o bryd yw na fu modd profi o’r blaen union darddle unrhyw bysgodyn penodol ac,  o dan rai amgylchiadau, yn benodol yn achos pysgod sydd wedi’u prosesu neu eu coginio, gall fod yn eithaf anodd hyd yn oed adnabod y rhywogaeth, heb sôn am ei tharddle.

“Rydym wedi datblygu dull y gellid ei ddefnyddio ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd ac ar draws y diwydiant pysgod, ac rydym wedi dangos ei effeithiolrwydd o ran pedair rhywogaeth sy’n gyffredin yn Ewrop. Gellir defnyddio’r dull hwn i adnabod neu gymharu cyfres o farcwyr genynnol penodol mewn samplau o bysgod, a hynny ar unrhyw bwynt yn y gadwyn defnyddwyr, o’r rhwyd hyd y plât, ac i olrhain y pysgod i’w tarddle neu i’w grŵp bridio.

Wrth i’r dull hwn gael ei ddefnyddio’n ehangach, bydd defnyddwyr yn gallu prynu pysgod, yn ffyddiog eu bod yn prynu neu’n bwyta’r cynnyrch a ddisgrifir ar y label neu’r fwydlen, a bod y nwyddau y maent wedi’u prynu’n dod o stociau cynaliadwy o bysgod.”

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013

Site footer