Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canllawiau Ymarferol Newydd Ar Fuddsoddiadau Coedwigaeth I FFERMWYR a Pherchnogion Tir a Ryddhawyd Gan Woodknowledge Wales Mewn Cydweithrediad  Phrifysgol Bangor

Mae plannu coed wedi'i dargedu'n dda ar dir fferm yn ffordd bwysig o ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwella'r cyflenwad o goed lleol. Fodd bynnag, nid yw targedau creu coetiroedd ledled y DU yn cael eu cyflawni trwy blannu coed ar diroedd ffermio. Mae'n ddealladwy bod ffermwyr yn wyliadwrus oherwydd bod creu coetir yn cynrychioli newid mawr yn nefnydd tir ac ymrwymiad tymor hir o ran tir, llafur a chyfalaf i fusnes ffermio. 

Ysgrifennwyd y chwe chanllaw cysylltiedig fel bod gan ffermwyr a thirfeddianwyr y wybodaeth a'r dulliau angenrheidiol i gymryd camau rhesymol i weld â allai buddsoddi mewn coedwigo a chynhyrchu coed yn eu busnes ffermio wneud synnwyr ariannol, cyn gofyn am gyngor arbenigol.

Lluniwyd y nodiadau ymarferol gan Dr Ashley Hardaker, Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Syr William Roberts, Prifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan yr Athro John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig yn y Brifysgol.

Comisiynwyd y canllawiau gan Woodknowledge Wales fel rhan o'u project Cartrefi wedi’u tyfu Gartref, a noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o nodi camau gweithredu trawsnewidiol i wella'r cyflenwad o gynhyrchion coedwigoedd lleol yng Nghymru. 

Dywedodd Ashley Hardaker:
“Nid bwriad y canllawiau hyn yw hyrwyddo buddion ariannol creu coetir ar ffermydd. Yn hytrach, maent yn galluogi asesiad mwy gwrthrychol trwy roi cyflwyniad i'r dulliau economeg allweddol, gan ddefnyddio enghreifftiau syml, y gall ffermwyr a pherchnogion tir eu defnyddio i werthuso eu cynlluniau creu coetir posibl eu hunain." 

Ychwanegodd John Healey, aelod o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig 

“Nid ydynt yn cymryd lle gwerthusiad a chyngor llawn gan goedwigwr siartredig, ond maent yn caniatáu i ffermwyr a pherchnogion tir fynd at gynghorwyr proffesiynol gyda rhagor o wybodaeth.”

Gellir gweld y chwe chanllaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar wefan Woodknowledge Wales:

https://woodknowledge.wales/home-grown-homes/afforestation

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2021

Site footer