Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cylchgrawn a olygwyd gan academydd o Fangor yn dod i’r brig yn ei faes

O'r chwith: Yr Athro Carvalho, Yr Athro Pitcher, Yr Athro Hart a'r Athro KaiserO'r chwith: Yr Athro Carvalho, Yr Athro Pitcher, Yr Athro Hart a'r Athro KaiserMae cylchgrawn a olygwyd gan academydd ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n adnodd hanfodol ar gyfer pawb sy’n ymddiddori mewn pysgod o ran eu bioleg, eu cadwraeth a’u defnydd wedi cyrraedd y brig yn ei faes.

Mae’r Athro Gary Carvalho o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn gyd-olygydd ar y cylchgrawn Fish and Fisheries a gofnododd yn ddiweddar Ffactor Effaith o 8.755, sef dwywaith ffactor effaith y cylchgrawn agosaf ato. Yn y cylchgrawn, ceir cyd-gasgliad beirniadol o’r prif faterion seicolegol, moleciwlaidd, ecolegol ac esblygiadol sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth ryngddisgyblaethol ar bysgod.

Mae’r Athro Carvalho yn cyd-olygu’r Cylchgrawn â’r Athro Tony Pitcher a’r Athro Paul Hart, a’r ddau â chysylltiad hir â Bangor. Roedd yr Athro Pitcher yn uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn yr 80au diweddar/ 90au cynnar cyn gadael er mwyn arwain y Ganolfan Bysgodfeydd ym Mhrifysgol British Columbia yng Nghanada. Ar ben hynny, cyflwynodd y cwrs MA mewn Pysgodfeydd i Fangor, a llawer o’i fyfyrwyr, trwy hynny, yn dod yn ddylanwadol yn y maes, a bellach yn dal swyddi uwch yn y diwydiant pysgod a physgodfeydd. Mae’r Athro Hart wedi cydweithio ar raddfa eang â staff Bangor dros y blynyddoedd, a bu hefyd yn Arholwr Allanol ar gyrsiau is-radd ac ôl-radd, fel ei gilydd.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol gynhadledd gan y Gyngres Bysgodfeydd, a ddigwyddodd ar yr un pryd â phen blwydd nodedig y ddau academydd adnabyddus hyn. Bydd yr Athro Pitcher a’r Athro Hart, fel ei gilydd, yn dathlu eu pen blwydd yn 70 oed yn ddiweddarach eleni, a rhoesant ill dau gyflwyniadau i gynulleidfa fyd-eang yn y gynhadledd.  

Cyd-drefnwyd y gynhadledd gan yr Athro Gary Carvalho a’r Athro Mike Kaiser o’r Coleg Gwyddorau Naturiol. Mae’r Athro Kaiser hefyd yn aelod fwrdd golygyddol Fish and Fisheries. Mae hyn yn cadarnhau mai yn y Brifysgol y ceir y grŵp cryfaf yn y DU o academyddion â diddordebau yn ymwneud â bioleg pysgod a physgodfeydd.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014

Site footer