Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Darganfod rhywogaeth gwiberod newydd

Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.

Mae’r grŵp, dan arweiniad Dr Anita Malhotra yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Bangor,  wedi cyhoeddi papur yn y cyfnodolyn Zootaxa yn manylu ar hanes darganfod y wiber bydew werdd llygaid rhuddem - Cryptelytrops Rubeus. llun: Peter Paul Van Dijkwiber bydew werdd llygaid rhuddem - Cryptelytrops Rubeus. llun: Peter Paul Van Dijk a rhywogaeth debyg arall â llygaid melyn o'r enw gwiber bydew werdd Mynyddoedd Cardamom. Mae’r ddwy rywogaeth wedi cael eu hadnabod fel rhywogaethau gwahanol i'r wiber bydew llygaid mawr diolch i dros ddeuddeg mlynedd o waith yn y maes, dadansoddiad manwl ar nodweddion corfforol a dadansoddiad genetig.  Mae’r olaf yn elfen hollbwysig gan fod amrywiaeth eang o rywogaethau’n gallu arddangos nodweddion corfforol tebyg iawn.

Gwnaed y gwaith dan arweiniad Dr Malhotra, mewn cydweithrediad â’r Roger Thorpe a Dr Bryan Stuart (oedd ar y pryd yn fyfyriwr PhD yn yr Amgueddfa Maes yn Chicago,ond sydd ar hyn o bryd yn Guradur Herpetoleg yn Amgueddfa Gwyddorau Naturiol Gogledd Carolina yn Raleigh, UDA). Ond gwnaed llawer o'r gwaith genetig gan y fyfyrwraig Mrinalini fel rhan o’i doethuriaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.

Eglurodd Dr Malhotra: “Mae lliw’r wiber bydew llygaid mawr yn amrywio cryn dipyn, felly roedd yn anodd penderfynu a oedd lliw llygaid trawiadol y wiber bydew llygaid rhuddem, a’r gwahaniaethau mwy cynnil yng ngwiber bydew mynyddoedd Cardamom yn ddigon o reswm dros eu diffinio’n rhywogaethau newydd. Rydym wedi treulio rhai blynyddoedd yn gweithio ar eneteg y grŵp i wneud yn siwr eu bod yn rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd, felly mae'r papur yn cynrychioli pen llanw 12 mlynedd o waith gan y grwp cyfan."

Ychwanegodd Dr Malhotra: “Mae ein darganfyddiadau’n bwysig oherwydd bod rhywogaethau â llai o amrywiaeth yn llawer mwy tebygol o wynebu difodiant.  Mae adnabod y rhywogaethau hyn yn gam cyntaf tuag at eu hamddiffyn. Mae'n golygu bod pobl yn gwybod beth sydd yno i’w amddiffyn.  Er bod rhai rhywogaethau o wiberod pydew fel pe baent yn ymaddasu’n eithaf da i bresenoldeb dyn, mae eraill yn fwy cyfyngedig i goedwigoedd.  Yn dibynnu ar y rhywogaeth, y prif fygythiadau yw dinistrio cynefinoedd a gor-gasglu. Fel rheol mae’r rhywogaethau hyn yn cael eu hel i’w defnyddio mewn meddyginiaethau traddodiadol, ond yn achos rhywogaeth hardd fel y wiber bydew llygaid rhuddem, gallai llawer ohonynt gael eu targedu er mwyn eu cadw mewn caethiwed.

“Y cam nesaf yn y project fydd adnabod rhywogaethau eraill ac rydym yn cydweithio â grwpiau ym mhob man yn Asia i wneud hyn.  Rydym yn edrych hefyd ar wenwyn y nadredd a sut mae bywyd a chysylltiadau esblygol yn effeithio ar hyn.

Mae grŵp ymchwil Ecoleg Foleciwlaidd ac Esblygiad Ymlusgiaid yn arweinwyr byd yn eu maes.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011

Site footer