Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Darganfod rhywogaeth newydd o gloron yn ystod astudiaeth Primatolegydd o Brifysgol Bangor

Bonobos, an endangered species of great ape.Bonobos, sef epaod sydd mewn perygl.

Gwnaeth Dr Alexander Georgiev, primatolegydd ym Mhrifysgol Bangor, ddarganfyddiad anarferol wrth astudio epaod yn y Congo.  Sylwodd Dr Georgiev fod y Bonobos yn palu ac yn bwyta rhywbeth, sef cloron yn ôl y cynorthwywyr maes o’r Congo.  Erbyn hyn, mae cydweithwyr Dr Georgiev sy’n arbenigo mewn ffyngau wedi nodi bod y gloronen arbennig hon yn rhywogaeth newydd, nad oedd gwyddonwyr yn ymwybodol ohoni cyn hyn. 

Caiff y rhywogaeth newydd hon ei defnyddio’n gyffredin gan gymunedau’r Congo fel abwyd i ddal mamaliaid bach. Enw’r rhywogaeth yw Bonobo Hysterangium oherwydd bod bonobos, sef epaod sydd mewn perygl, hefyd yn eu mwynhau. Dywed gwyddonwyr fod y cloron yn awgrymu fod cronfeydd enfawr o amrywiaeth ffwngaidd heb eu canfod yn y rhanbarth.   

"Mae Kokolopori yn safle gwaith maes eithriadol o anghysbell, yng nghanol Basn y Congo, " meddai Dr Georgiev wrth ddisgrifio'r gwaith maes cyffrous yr oedd yn ymwneud ag ef.

"Roedd yn dipyn o daith i gyrraedd yno, yn defnyddio awyren fasnachol ac yna taith 7 diwrnod ar hyd isafonydd y Congo. Bu'n rhaid i ni fynd â phopeth yr oedd ei angen arnom gyda ni, oherwydd ein bod yn treulio sawl mis yn y maes.  Teithiais yno gyda chydweithwyr o’r Bonobo Conservation Initiative a Vie Sauvage a oedd hefyd yn dod â llawer o nwyddau gyda nhw ar gyfer y gymuned leol. 

"Unwaith y cyrhaeddom y fforest, gosodwyd gwersyll ymchwil bach ger ffrwd fechan ac oddi yno roeddem yn crwydro yng nghwmni tracwyr Vie Sauvage i ddod o hyd i'r bonobos. Roeddem yn ceisio dilyn eu trywydd trwy gydol y dydd: byddwn i'n cofnodi beth oeddent yn ei fwyta, yn ceisio dysgu eu hadnabod, a chasglu data ar eu symudiadau. Roedd yn brofiad blinedig, anodd, ond hefyd yn brofiad buddiol a chyffrous iawn. (Yn enwedig pan welais rywbeth nad oeddwn erioed wedi eu gweld yn ei wneud o'r blaen – sef bwyta cloron!)." 

Mae’r erthygl hon wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Mycologia. Darllenwch yr erthygl lawn.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020

Site footer