Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Darlithydd o Fangor yn gweithio gyda Bear Grylls

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio â’r anturiaethwr Bear Grylls drwy rannu ei arbenigedd ar gyfer y bennod agoriadol o’r gyfres deledu dair-rhan newydd, Britain’s Biggest Adventures with Bear Grylls.

Mae’r Athro Simon Webster o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn cynnal grŵp sy’n canolbwyntio ar yr astudiaeth o endocrinoleg gramennog yn y Brifysgol ac fe welir yn y bennod gyntaf pan ymwelodd Bear â gogledd Cymru, a mynyddoedd gogoneddus Eryri.

Drwy deithio i'r gorllewin o fynyddoedd Eryri, dechreuodd Bear ei antur drwy groesi bae mwyaf yng Nghymru, sef Bae Ceredigion. Ar un tro roedd creigiau arfordirol ynghlwm i beth sydd bellach yng ngogledd America, ond cawsant eu rhwygo rhyw 65-miliwn o flynyddoedd yn ôl pan ffurfiwyd Cefnfor yr Iwerydd. Heddiw mae'n gartref i gynefin morol gwirioneddol unigryw, o forloi a dolffiniaid i grwbanod a siarcod.

Roedd Bear yno i ddeifio, gweithgaredd peryglus ac weithiau marwol, lle bu'n suddo 52-troedfedd i lawr i wely'r môr i chwilio am ysglyfaethwr rhyfedd ac egsotig  - y mantis shrimp.

Cyn i Bear gychwyn ar y deifio, roedd gan yr Athro Webster rybudd ar gyfer Bear:

"Byddwch yn ofalus pan fyddwch yn cyffwrdd y mantis shrimp oherwydd gall troi ei gynffon o gwmpas a’ch torri. Mae ganddo hefyd grafangau anhygoel, mae'r rhain yn saethu allan ar y cyflymder bwled 2:2.

"Mae'r berdysyn yn gallu addasu i'w amgylchedd, mae ganddo grafangau raptorial anhygoel ac mae ganddynt lygaid hynod o gymhleth, efallai'r rhai mwyaf datblygedig yn yr infertebratau. Mae ganddynt hyd at 12 pigmentau gweledol o'i gymharu â’r tri sydd gennym ni, ac mae’n gallu gweld golau polar ac uwch fioled, ac yn wahanol i ni, maent yn gallu  symud pob llygad yn annibynnol."

Ar ôl ei ail gynnig o sgwrio wely'r môr, gwelodd Bear mantis shrimp, a dywedodd: "Mae'n edrych yn eithaf egsotig!"

Gwyliwch y bennod eto ar ITV Player.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2015

Site footer