Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dathlu llwyddiant yn wyneb anawsterau lu

Macauly GatenbyMacauly GatenbyFe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a gafodd help llaw gan yr Helena Kennedy Foundation, gymryd rhan mewn dathliad arbennig yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar. 

Mae Macauly Gatenby, 19, o Portsmouth, yn astudio am radd BSc mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol. Derbyniodd fwrsariaeth o £1500 gan yr Helena Kennedy Foundation i helpu tuag at gostau astudio yn y brifysgol, a bydd hefyd yn derbyn cyfarwyddyd a hyfforddiant parhaus gan y Sefydliad.

Bydd Macauly, sy'n rhannol fyddar ac sydd â dyslecsia, yn defnyddio'r arian tuag at ei gostau byw, yn ogystal â phrynu gliniadur i'w helpu gyda'i astudiaethau. Cafodd ei enwebu am y fwrsariaeth gan staff yn Sparsholt College - lle bu'n astudio o'r blaen - oherwydd ei benderfyniad i lwyddo yn ei hoff faes astudio. 

Meddai Macauly: “Mae bod ar y cwrs yma wedi fy ysbrydoli i edrych ar yrfaoedd eraill ym maes Sŵoleg, heblaw Primatoleg, fy newis gyrfa yn y lle cyntaf. Mae Prifysgol Bangor yn brifysgol ragorol gyda llawer o staff proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd, felly mae ansawdd yr addysgu bob amser yn uchel. Yn ogystal â hyn, mae Bangor mewn lle delfrydol i fynd ar deithiau maes gwych, sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o rai modiwlau i'r myfyrwyr."

Yn y dathliad yn Nhŷ'r Arglwyddi roedd 104 o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sydd wedi llwyddo i fynd i brifysgol o golegau addysg bellach.

Sefydlwyd yr Helena Kennedy Foundation yn enw'r Fonesig Kennedy dros 15 mlynedd yn ôl i hyrwyddo darganfyddiadau ei hadroddiad tra phwysig 'Learning Works'. Meddai'r Fonesig Kennedy, wrth siarad yn yr achlysur: "Mae deiliaid ein bwrsariaethau yn bobl wirioneddol ryfeddol ac mae'n anrhydedd bod yn dyst i'w llwyddiant a chael eu cefnogi ymhellach. Rwy'n hynod falch o gael cyflwyno un o'n gwobrau i'r myfyrwyr hyn i gydnabod eu llwyddiannau mewn prifysgolion. Dysgu pethau newydd ydi hanfod bywyd; mae pob un o'r myfyrwyr yma wedi dangos dycnwch a phenderfyniad wrth fwrw ymlaen â cham nesaf eu bywydau."

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Site footer