Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diflaniad caeau reis yn bygwth rhagor o gynhesu byd-eang

Mae golwg pryderus ar yr Athro Chris Freeman ger pwll dyframaethu a oedd yn arfer bod yn gae padi Mae golwg pryderus ar yr Athro Chris Freeman ger pwll dyframaethu a oedd yn arfer bod yn gae padi Mae newid mawr wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Tsieina, heb i ni sylwi. Mae caeau padi wedi bod yn cael eu troi'n byllau dyframaeth yn gyflym iawn, ac yn dal i gael eu troi, er mwyn cynhyrchu rhagor o brotein i boblogaethau'r byd sy'n tyfu. Mae'r perygl i'r newid hwn gael effaith annisgwyl ar gynhesu byd-eang.

Mae ymchwilwyr rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor, wedi canfod bod troi caeau reis i ddyframaeth yn rhyddhau symiau anferthol o'r methan nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. 

Mae Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) wedi rhybuddio y bydd y blaned yn cyrraedd y trothwy allweddol o 1.5 gradd Celsius uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol mor fuan â 2030, gan gyflymu'r risg o sychder eithafol, tanau gwyllt, llifogydd a phrinder bwyd i gannoedd o filiynau o bobl. Dywedodd Freeman "Ffynhonnell arall o fethan yw'r peth olaf sydd ei angen arnom".

Gan fod caeau reis eisoes yn ffynhonnell enfawr o fethan atmosfferig cymerwyd yn ganiataol na allai unrhyw beth ddigwydd i wneud sefyllfa anodd yn waeth.

Wrth ddisgrifio eu gwaith sy'n ymddangos yn "Nature Climate Change", dywedodd yr Athro Chris Freeman: "Cawsom syndod mawr i ddarganfod bod y methan a gynhyrchir o'r pyllau dyframaeth yn llawer iawn uwch na chyn iddynt gael eu newid."

Eglurodd yr Athro Freeman o Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol: "Mae caeau padi yn cynhyrchu llawer iawn o fethan pan gaiff deunydd planhigion eu torri i lawr gan ficrobau o'r enw methanogenau yn y priddoedd padi di-ocsigen sy'n llawn dŵr. Ond yn y pyllau dyframaeth sy'n disodli'r caeau padi, mae llawer iawn o fwyd yn cael eu hychwanegu i fwydo'r crancod a'r pysgod sy'n cael eu tyfu ynddynt, ac mae hynny'n cynyddu'n sylweddol faint o ddeunydd sy'n pydru fel bod y methanogenau yn cynhyrchu hyd yn oed mwy o fethan."

Credyd CC02 parth cyhoeddusCredyd CC02 parth cyhoeddusYchwanegodd yr Athro Freeman: "Rydym yn gwybod ers peth amser bod y caeau reis yn ddrwg i gynhesu byd-eang. Ond mae sylweddoli bod ffynhonnell newydd o broblemau "cudd" yn mynd â'r bygythiadau hyn i lefel hollol newydd."

Ond mae eu hastudiaethau wedi datgelu gobaith. Dengys eu hymchwil os gwneir addasiadau i awyru'r pyllau dyframaeth, y gellid dileu llawer o'r methan niweidiol cyn iddo gyrraedd yr atmosffer. Mae'r IPCC yn rhybuddio y bydd rhaid i ollyngiadau net byd-eang o garbon deuocsid ostwng 45% o lefelau 2010 erbyn 2030 a chyrraedd "sero net" erbyn tua 2050 er mwyn cadw'r cynhesu o gwmpas 1.5 gradd C. Mae'r ras wedi dechrau i sicrhau y cyflwynir y newidiadau hyn cyn y bydd y gyfradd gynyddol bresennol o newid defnydd tir yn gwaethygu'r sefyllfa cynhesu byd eang ymhellach.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Site footer