Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?

Rhaeadr pwersu yn disgyn drwy goedwig yn AffricaRhaeadr pwerus yn disgyn drwy goedwig yn AffricaMae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt  am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at  sicrhau goroesiad  y pryfaid sy’n peillio ein cnydau.

Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’  am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth.

Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.

Bellach mae nifer o fodelau o’r math- ond mae rhaid eu dilysu-  eu cymharu yn erbyn y gwir, fel bod y rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau yn gwybod pa rai fyddai mwyaf addas at eu hanghenion.

Mae ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn Ecosystems wedi datgelu po fwyaf cymhleth y mpde;, y mwyaf cywir ydyw, ac felly yn darparu’r  sail gwybodaeth gorau ar gyfer cynllunio.

Fel yr esbonia prif awdur ymchwil, Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor:

“Rydym wedi dangos ar y cyfan, bod modelau cymhleth yn fwy cywir. Felly,  os yw’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau eisio’r llun orau, yna dylent ddefnyddio’r model mwyaf cymhleth sydd ar gael iddynt. Rydym hefyd yn dangos bod ein dealltwriaeth o’r prosesau cymdeithasol sydd ynghlwm wrth ddefnyddio natur hefyd yn wan, ond mae’r prosesau hyn o bwys mawr yn Affrica ac felly angen astudiaeth bellach.”

Meddai’r Athro Felix Eigenbrod, cydawdur ac arweinydd y project ym Mhrifysgol Southampton:

“Mae ein gwaith efo perthnasedd penodol ar gyfer lleoliadau lle  mae ond ychydig ddata’n bodoli, fel Affrica Is na’r Sahara.”

Cyflawnwyd y gwaith gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Southampton a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg,  gyda chyd- weithwyr ledled Ewrop ac Affrica, gyda  chyllid gan Raglen  Gwasanaethau Ecosystemau er Lleddfu Tlodi llywodraeth y DU (<https://www.espa.ac.uk/>).

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019

Site footer