Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo sesiynnau tynnu llun galw i mewn

Sgwrbwd galego, un o nifer o eitemau diddorol sydd i'w gweld yn yr Arddangosfa.Sgwrbwd galego, un o nifer o eitemau diddorol sydd i'w gweld yn yr Arddangosfa.Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 14 o Fai rhwng 11yb i 3yp.

Bydd cyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Bydd yr arlunydd Jaci Atkinson, tiwtor ar gyrsiau celf Ysgol Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, ar gael ar y dydd i arwain ar sesiynau tynnu llun galw i mewn fydd yn addas i bob oedran.

Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol trwy’r prosiect ‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’ sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Treftadaeth Loteri. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Dywedodd Dr Rosanna Robinson, Curadur yr Amgueddfa “Rydym yn bwriadu agor Amgueddfa Brambell yn fwy aml er mwyn rhoi mynediad i’r cyhoedd. Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant Gwyl Wyddoniaeth y Brifysgol sydd wedi bod yn boblogaidd ac mae’r Amgueddfa yn cael ei fynychu’n dda ar y diwrnodau yma.”

Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016

Site footer