Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Drysau’n agored i gasgliadau Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor yn rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 27 Medi.

Mae digwyddiad Drysau Agored, sydd yn cael ei arwain gan Cadw, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno yn ogystal â gofyn ambell i gwestiwn i’r arbenigwyr fydd ar gael. Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur yn Adeilad Brambell ar agor i’r cyhoedd rhwng 10am a 12pm.

Bydd teithiau tywys hefyd yn cael eu cynnal gan dywyswr arbennig o gwmpas Casgliadau Celf a Cerameg y Brifysgol. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a cerameg yng Nghoridor Siambr y Cyngor a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlin, Peter Prendegast a Frederich Wiliam Hayes. Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau am 1pm-2pm a 2:30pm-3:30pm.

Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Mae'n bleser cael cymryd rhan yn Drysau Agored a rhoi cyfle i bobl weld y tu mewn i'n Prif Adeilad a mwynhau cyfoeth ein casgliadau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd:

“Mae Drysau Agored yn ddigwyddiad gwych sydd yn rhoi cyfle arbennig i drigolion lleol ac ymwelwyr gael mwynhau rhai o atyniadau mwyaf arbennig ein hardal. Rwy’n falch ein bod wedi gallu cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor i drefnu’r digwyddiad yma sydd yn ategu at waith prosiect ‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’ sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Treftadaeth Loteri.

“Os ydych chi erioed wedi bod eisiau cael golwg ar gasgliadau prin y Brifysgol, dyma’ch cyfle chi. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am yr amrywiad helaeth o bethau sydd ar ddangos yn y casgliadau gan arbenigwyr o’r Brifysgol.”

Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 25 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar 01248 353368 neu e-bostio amgueddfagwynedd@gwynedd.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch i www.cadw.wales.gov.uk/opendoors

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2014

Site footer