Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Efrydiaeth PhD mewn Gwyddorau Biofeddygol

Mae Efrydiaeth PhD y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddorau Biofeddygol ar gael o 1 Hydref 2012. Un o amcanion y cynllun yw galluogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa i gymhwyso fel ymgeiswyr cymwys ar gyfer swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg.  Mae’r pwyslais ar ymchwilio i gael cymhwyster PhD, ond mae hyfforddiant mewn addysgu a dysgu hefyd yn rhan allweddol o’r cynllun.  

Bydd yr ymchwil PhD mewn maes gwyddor biolegol labordy sy’n uniongyrchol berthnasol i iechyd dynol, neu lle defnyddir system model briodol.  

Daw’r prif oruchwyliwr o blith staff yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor:  (gweler  http://www.bangor.ac.uk/biology//academic_staff.php  i gael manylion goruchwylwyr posibl a’u diddordebau ymchwil), a gall y project gynnwys cydweithio â staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol  Betsi Cadwaladr.

Gwneir penderfyniadau terfynol ynghylch natur y project gan bwyllgor ymchwil yr Ysgol, mewn ymgynghoriad â’r ymgeisydd llwyddiannus. 
Projectau a roddir ar y rhestr:

Bydd yr efrydiaethau’n cynnwys ffioedd a lwfans cynnal am 4 blynedd (yn achos ymgeiswyr heb radd Lefel M) neu 3 blynedd (ymgeiswyr gyda gradd Lefel M).  Cyllidir blwyddyn bellach pryd y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod staff cyflogedig i gyflawni dyletswyddau dysgu ym maes Biofeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Biofeddygaeth ac/neu radd MSc mewn pwnc tebyg neu gysylltiedig.    Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol. 

Ymholiadau anffurfiol: i’r Athro A D Tomos Ffôn: 01248 382362 Ebost : a.d.tomos@bangor.ac.uk

Cais:  Trwy curriculum vitae (yn cynnwys enwau a manylion cyswllt DAU ganolwr) a llythyr cefnogi at: yr Athro A D Tomos, Ysgol Gwyddorau Biolegol, Adeilad Thoday, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd, LL57 2UW.

Dyddiad cau: 15 Ebrill 2012

Mae manylion llawn am Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil 2012/13 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’w cael yn:  
http://www.colegcymraeg.ac.uk/en/media/main/dogfennau-ccc/cylchlythyron/CylchlythyrYsgoloriaethauYmchwil2012_13Eng.pdf 

 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2012

Site footer