Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Entrepreneur ifanc o Fangor yn credu bod digon o bysgod yn y môr

Sam HamillSam HamillMae myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn defnyddio ei angerdd dros fioleg y môr i wireddu ei uchelgais o ddod y cyflenwyr ar lein mwyaf o rywiogaethau o bysgod byw yng ngwledydd Prydain.  

Bydd Sam Hamill, sydd ar ei drydedd flwyddyn o astudio Bioleg Môr, yn lansio Big on Fish fis Tachwedd, siop ar lein ac ar y stryd yn gwerthu offer acwariwm ac yn cadw mwy na 1,100 o rywogaethau o bysgod egsotig a chwrel.

Dechreuodd diddordeb Sam mewn bioleg y môr yn chwech oed a datblygodd ei natur entrepreneuriaid yn ystod ei arddegau pan sefydlodd ei fusnes cyntaf yn cynnig gwasanaethau cynnal pyllau pysgod i'w ardal, yn 17 oed. Ar ôl cyrraedd y brifysgol, a sylweddoli pa mor anodd yw hi i gael gwaith yn y diwydiant ar ôl graddio, penderfynodd Sam sefydlu busnes newydd i’w ddatblygu ac i’w dyfu tra’n astudio yr un pryd.  

Ac, ar ôl 18 mis o waith caled, bydd Big on Fish yn cael ei lansio’r mis nesaf. Bydd Sam yn rheoli’r siop ar lein yng Nghaernarfon sy'n cynnig danfon erbyn y diwrnod canlynol yn ogystal â siop fân-werthu y mae wedi datblygu partneriaeth â hi ym Manceinion.  

Bydd y siop yn cadw pysgod o bob rhan o'r byd, gan gynnwys Hawaii, Awstralia a'r Môr Coch, gyda’r pysgod drutaf yn gwerthu am fwy na £2,000. Mae Sam yn hyderus y bydd y siop fân-werthu a'r siop ar lein yn galluogi Big on Fish i gael y stoc fwyaf o rywogaethau o bysgod yng ngwledydd Prydain.  

Meddai: “Mae wedi cymryd tipyn o amser i sefydlu busnses o'r cychwyn cyntaf nes ei fod yn barod i gael ei lansio, ond rwy'n berson hynod uchelgeisiol ac roeddwn i'n teimlo fod hon yn farchnad y gallwn i ychwanegu ati gyda'm gwybodaeth a'm hangerdd at fioleg y môr.  

“Mae’n busnes yn anelu at gleientiaid preifat a masnachol ac rwy’n siŵr y bydd pobl o bob cefndir yn prynu cynnyrch acwariwm gennym ni - yn bysgod ecsotig i'w cartref neu'n danc pysgod ysblennydd ar gyfer eu busnes.”

Ar ei daith fusnes, cafodd Sam ei gyfeirio gan Lowri Owen, Pencampwr Menter Prifysgol Bangor, at Syniadau Mawr Cymru. I’w helpu gyda’i gynllun busnes, bu Sam ym Mŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru ym Metws-y-Coed yn gynharach eleni.  Daeth hanner cant o entrepreneuriaid i’r gweithdy preswyl tri diwrnod i fagu’r sgiliau hanfodol y maen nhw eu hangen i roi eu busnesau ar seiliau cadarn a datblygu eu rhwydwaith o gysylltiadau. Yno, cafodd Sam sicrwydd a chyngor gan fentoriaid ynghylch ei gynllun busnes yn ogystal â chyfle i gyfarfod ag entrepreneuriaid eraill o’r un fryd.  Mae wedi rhentu eiddo busnes oddi wrth ddau ohonyn nhw yn Nghaernarfon.  

Wrth sôn am ei brofiadau yn y Bŵtcamp, meddai Sam: “Roeddwn i’n mynd yno’n meddwl fy mod i’n gwybod bron bopeth am ddechrau busnes, ond, erbyn gweld, doeddwn i ddim yn gwybod cymaint ag oeddwn i'n ei feddwl. Fe ddysgais i lawer yn y Bŵtcamp am amddiffyn fy mrand a sut i fasnachu’r busnes.  Mae’n wasanaeth gwych i entreprenuriaid ifanc fanteisio arno.  

Ac, ar ôl lansio Big on Fish, bydd Sam yn gweithio i wireddu hyd yn oed fwy o’i freuddwydion.  Mae wedi rhoi ei fryd ar agor rhagor o siopau mân-werthu ledled gwledydd Prydain, yn enwedig siop yn y dref lle mae’n byw ar hyn o bryd yng nghogledd Cymru, ac yn enwedig hefyd oherwydd fod cymaint o waith bioleg y môr yn cael ei wneud yn y rhanbarth.  

 A, chyn diwedd y flwyddyn, mae Sam hefyd yn bwriadu lansio amrywiaeth o fwyd pysgod Big on Fish ac wrthi’n datblygu partneriaeth ar hyn o bryd gyda chwmni dramor yn America.  Bydd Sam yn ail frandio'r cynnyrch a fydd yn cael ei fewnforio o America o dan enw Big on Fish, ac felly yn ymestyn yr hyn sydd gan y cwmni i'w gynnig i'w gwsmeriaid.  

Os oes gennych syniad am fusnes ar yr ochr, cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru ac yn annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff rhaglen Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr hyn y gall y prosiect ei gynnig, cofrestrwch ar gyfer Rhyddhau Syniadau Mawr. Fe gewch fynediad at Simply Do Ideas i ddatblygu'ch Syniadau Mawr, derbyn canllaw cychwyn busnes rhad ac am ddim, gallu cael gafael ar gymorth gan gynghorydd busnes, a chael manylion am gyfleoedd yn eich ardal chi. Cofrestrwch yma.

Erthygl gan Syniadau Mawr Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2018

Site footer