Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Esbonio un o digwyddiadau rhyfedda byd natur

Crany Coch Ynys y Nadolig: Llun gan MrinaliniCranc Coch Ynys y Nadolig: Llun gan MrinaliniUn o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig, Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio. Mae hyn yn cael ei ddangos ar Nature’s Weirdest Events ar BBC 2 2 Ionawr am 8.00y.h a’i esbonio gan yr Athro Simon Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol. Roedd yr Athro Webster yn gyfrifol am ganfyddiad yr hormone sy’n gyfrifol am y daith anhygoel.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2013

Site footer