Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ffrindiau’n casglu degau o filoedd i gynorthwyo Dr Sophie Williams i ddychwel adref

Bydd Drymbago yn cynnal noson er budd Sophie Williams yn Neudd Ogwen- dyma nhw, efo Sophie yn yr Eidal. Bydd Drymbago yn cynnal noson er budd Sophie Williams yn Neudd Ogwen- dyma nhw, efo Sophie yn yr Eidal. Gŵyl jin, taith noddedig i fyny’r Wyddfa, cardiau Nadolig wedi’u dylunio’n arbennig a digwyddiad eillio gwallt: dim ond rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd wedi eu cynnal gan gyfeillion a theulu Sophie Williams yn ystod y misoedd diwethaf. Mae angen yr arian er mwyn addasu cartref Sophie i’w galluogi i symud o gwmpas y tŷ mewn cadair olwyn ac i roi lle i’r gofalwyr sydd eu hangen arni 24 awr y dydd.

Dioddefodd Sophie, a oedd yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Bangor, niwed i’w hymennydd tra ar  waith maes yn Tsieina yn 2015. Mae ganddi gyfyngiad ar ei symudiadau o’i gwddf i lawr ac mae hi’n ddibynnol ar beiriant anadlu. Mae disgwyl i’r gwaith i’w chartref yn Sling, ger Tregarth, gostio oddeutu £60,000.

Meddai’r Athro Julia Jones, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Sophie Williams a chyfaill agos a chyn- gydweithiwr gyda Sophie: “Pan ddechreuon ni’r ymgyrch, roedd £60,000 yn ymddangos yn swm amhosib i’w gyrraedd, ond mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac, ynghyd â rhoddion ar-lein drwy safle Just Giving, mae’r cyfanswm ar hyn o bryd dros £40,000. Mae Sophie yn berson mor greadigol, ac efallai mai oherwydd hyn y mae ganddi gyfeillion creadigol ac yr un mor ymroddgar, sydd wedi canfod ffyrdd gwych o godi arian.” 

Y digwyddiad mawr nesaf yw Cyngerdd yn Neuadd Ogwen, Bethesda sy’n cael ei drefnu gan fand Sophie, Drymbago ar Chwefror 3ydd. Roedd Sophie yn perfformio efo Drymbago am nifer o flynyddoedd cyn ei salwch. Mae’r band yn parhau i fod yn ffrindiau da iddi ac yn manteisio ar bob cyfle i ddod ynghyd â Sophie. Wrth ddod at ei gilydd a chymryd y cyfle i gyd-chwarae, maent wedi diddanu staff yn Ysbyty Gwynedd, ac yn fwy diweddar, y ganolfan adfer sy’n gofalu am Sophie. Mae Drymbago yn grŵp mawr sydd wedi eu lleoli yn Eryri ac sydd yn cael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth y trofannau. Mae’r gerddoriaeth yn drwm, ffynci ac amrwd, gydag atseiniau o Golombia, Affrica a Guadeloupe; mae ganddynt enw da am eu cerddoriaeth fyw sydd yn cael pawb yn dawnsio, ac maent wedi perfformio ar draws Ewrop, a bellach yn cael eu cydnabod yn ffefrynnau mawr mewn gwyliau gerddoriaeth. Meddai un o’r grŵp, Holly Gone: “Cawn noson wych yn perfformio ac yn dawnsio, wrth godi arian i gynorthwyo ein cyfaill annwyl i ddod adref i’r fan y mae’n ei charu.”

Ronan Roche o Ysgol Gwyddorau Eigion yn cael eillio'i wallt i godi arian.Ronan Roche o Ysgol Gwyddorau Eigion yn cael eillio'i wallt i godi arian.Llwyddod Jenny Whitmore, cyfaill agos i Sophie, sydd yn gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ddwyn perswâd ar ei chydweithiwr Ronan Roche i ymuno â hi wrth gael eillio eu pennau.  A dyna ddigwyddodd yn ddiweddar, gyda chymorth dwy sy’n trin gwallt o ‘The Salon’ ym Mhorthaethwy. Digwyddodd yr eillio yn ystod amser paned yn y gwaith bore Gwener, gan gasglu £350 at yr achos.

Wedi 10 mis o adferiad yn Ysbyty Priory Highbanks, canolfan adsefydlu arbenigol i’r gogledd o Fanceinion, bydd Sophie yn gwneud y cam gyntaf ar ei thaith adref wrth symud i gartref gofal nyrsio yn Ninbych ddiwedd y mis. Mae Sophie yn edrych ymlaen yn eiddgar at symud gan y bydd yn ei gwneud yn haws iddi gadw mewn cysylltiad â’r nifer fawr o ffrindiau sydd ganddi yn ardal Bangor. Y nod, wrth gwrs, yw cyrraedd yn ôl i’r cartref yr oedd hi’n ei rannu gyda’i phartner, Robert, cyn iddi gael ei tharo’n wael.

“Bydd yn golygu cymaint i Sophie ac i minnau iddi fedru dod gartref. Rydym yn byw mewn lle mor hardd gyda golygfeydd anhygoel. Mae hi wedi llwyddo i ddod yma unwaith ers bod yn sâl, ond mae hi’n benderfynol o symud yn ôl cyn gynted y gallem ni gwneud y gwaith addasu angenrheidiol,” meddai Robert.

Mae’r Cyngerdd yn Neuadd Ogwen ar 3ydd Chwefror, gyda thocynnau yn £10 o flaen llaw neu £12 ar y drws.

Gellir rhoi cyfraniadau at Ymddiriedolaeth Sophie Williams, Tan y Felin Wen, Rhosbodrual, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BB neu ar-lein.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Site footer