Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Graddedigion Bangor yn gwneud gwahaniaeth ar broject World Challenge

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn gweithio ar broject amgylcheddol ym Madagascar, sydd ar restr fer ar gyfer World Challenge. Cystadleuaeth fyd-eang yw hon i ganfod projectau neu fusnesau bychain o amgylch y byd sydd wedi dangos mentergarwch ac arloesedd ar lefel sylfaenol. Sean Clement ym MadagascarSean Clement ym Madagascar


Graddiodd Sean Clement mewn Bioleg Môr/Cefnforeg yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, sydd wedi dod i fri’n rhyngwladol, a Jennifer Craighill mewn Sŵoleg gyda Sŵoleg  Môr  o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, sydd hefyd ac enw da iddi.  Graddiodd y ddau yr un flwyddyn (2007) a bellach maent ill dau yn gweithio fel gwyddonwyr maes ar yr un project ym Madagascar i gwmni Blue Ventures.

Mae Project Blue Ventures, ‘One Reef at a Time’, yn gweithio efo cymunedau lleol sy’n byw ar gyrion rîffau cwrel Madagascar, gan eu galluogi i greu bywoliaethau cynaliadwy.

Pleidleisiwch dros eich hoff broject cyn 12 Tachwedd 2010 yn:

http://www.theworldchallenge.co.uk/vote_2010.php

Bydd enillidd y World Challenge 2010  yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn  Yr Hâg ar Rhagfyr 4, a bydd yn derbyn grant am US$20,000 gan Shell i fuddsoddi yn eu gwaith.  Bydd y ddau nesaf ar y gorau yn derbyn US$10,000 yr un.

 

“Fel menter gymdeithasol rydym yn cael ein hysgogi gan ein nod o greu dulliau newydd a chynaliadwy o gyllido a gweithredu mentrau cadwriaethol,” meddai Gildas Andriamalala, swyddog ymestyn allan Blue Ventures yn ne Madagascar. “Mae’r mentrau hyn yn rhoi cyfle i bobol leol bennu eu dyfodol eu hunain, ac mae ein gwaith yn rhoi cymorth i gymunedau arfordirol yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig  wrth iddynt wynebu sialens dirywiad adnoddau môr.”
Swyddogaeth y gwyddonwyr maes yw hyfforddi’r gwirfoddolwyr brwd mewn technegau ymchwil môr, i arwain a chyfeirio’r ymchwil a monitro ar y safle. Maent hefyd yn gyfrifol am  roi gwybod am y canlyniadau trwy adroddiadau, cyhoeddiadau a chyflwyniadau i’r gymuned a’r gymuned wyddonol.

Meddai Sean Clement: “Mae Blue Ventures yn unigryw wrth ystyried anghenion cymunedau economegol ddifreintiedig yn ysbrydoliaeth ar gyfer cadwraeth rîffau de orllewin Madagascar. Mae gweithio mewn mannau mor anghysbell efo pysgotwyr a gwragedd, sydd ddim yn unig yn deall pwysigrwydd datblygu pysgodfeydd cynaliadwy yn y rhanbarth, ond sydd hefyd yn brwydro i gyflawni hynny, yn aml ar gost fawr iddynt eu hunain, wedi bod yn brofiad anhygoel i mi ac mae gen i obeithion mawr am ddyfodol rîffau cwrel Madagascar a dyfodol y dynion a’r merched sy’n dibynnu arnynt.”  Jennifer CraighillJennifer Craighill

Meddai’r Athro Colin Jago, Pennaeth Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor: “Sialens amgylcheddol ein hoes yw sut i hybu ansawdd bywyd gwell i bobol wrth gynnal cynaladwyedd amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o allweddol mewn amgylcheddau arfordirol sydd dan bwysau cynyddol oherwydd gweithgareddau dynol a newid hinsawdd. Mae gan ein graddedigion y wybodaeth wyddonol a’r sgiliau cyfathrebu i fedru gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes ac mae hyn yn esiampl wych o’r ffordd y gallant ddefnyddio eu sgiliau yn ymarferol. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt gyda’r her hon ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Lluniwyd y rhestr fer gan y beirniaid allan o dros 800 o enwebiadau, gan gydnabod bod gwaith Blue Ventures ym Madagascar yn dystiolaeth rymus o’r modd y gall menter gymdeithasol fod yn hwb effeithiol i ddatblygu mentrau cadwraeth cynaliadwy.

Pleidleisiwch dros eich hoff broject cyn 12 Tachwedd 2010 yn:

http://www.theworldchallenge.co.uk/vote_2010.php

Bydd enillidd y World Challenge 2010  yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn  Yr Hâg ar Rhagfyr 4, a bydd yn derbyn grant am US$20,000 gan Shell i fuddsoddi yn eu gwaith.  Bydd y ddau nesaf ar y gorau yn derbyn US$10,000 yr un.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010

Site footer