Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Graddedigion Bangor yn mynd i'r Fringe

Poster y cynhyrchiad.Poster y cynhyrchiad.Bydd pedwar o raddedigion Prifysgol Bangor yn mynd â sioe sgets wreiddiol i ŵyl gomedi'r "fringe" yng Nghaeredin eleni!

Daeth Patrick Pritchard (BA Astudiaethau'r Cyfryngau a Saesneg, 2013), Josh Fenby-Taylor (BSc Seicoleg, 2013), Rory Cooke (BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd, 2012) a Roddy Shaw (BSc Sŵoleg gyda Chadwraeth, 2012) i adnabod ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor a dechrau perfformio mewn sioeau comedi gyda'i gilydd. Yn ystod eu cyfnod gyda Chymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor buont yn perfformio sioeau sgets, standyp a byrfyfyr - ac yn perfformio gyda chomediwyr enwog fel Phill Jupitus a Sean Walsh!

Mae trefnydd y sioe, Patrick Pritchard, yn credu bod y cyfleoedd a gawsant gyda Chymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor wedi bod yn allweddol i sefydlu'r grŵp.

"Rydym i gyd yn perfformio gyda'n gilydd yn rheolaidd ac rydym yn deall cryfderau a gwendidau'n gilydd. Rydym i gyd yn wahanol iawn o ran ein harddull gomedïaidd ac mae hynny'n amlwg iawn yn y sioe! Cyn dod i Fangor, doeddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn cael cyfle i berfformio yng ngŵyl y Fringe yng Nghaeredin, ond oherwydd fy mod wedi cael cyfarfod pobl o'r un anian â mi yng Nghymdeithas Gomedi Bangor rwy'n gallu rhoi tic enfawr wrth yr eitem hon ar fy rhestr o uchelgeisiau!"

Llun o'r ymarferion:Rory Cooke, Josh Fenby-Taylor (sefyll), Patrick Pritchard ( yn cael ei drin!) a Roddy Shaw.Llun o'r ymarferion:Rory Cooke, Josh Fenby-Taylor (sefyll), Patrick Pritchard ( yn cael ei drin!) a Roddy Shaw.Mae hefyd yn cael trafferth credu bod y grŵp wedi gallu mynd mor bell â hyn ar ôl yr holl heriau y bu raid iddynt eu hwynebu ar hyd y ffordd:

"Cawsom y syniad o fynd i Gaeredin ym mis Tachwedd y llynedd (2012) gan benderfynu y dylem ddechrau gydag un o wyliau comedi mwyaf y byd os oeddem am fynd â'n comedi y tu allan i Fangor! Doeddwn i ddim yn meddwl y buasem yn llwyddo - mae Josh a fi wedi bod yn brysur gydag arholiadau a thraethodau hir ac mae Rory a Roddy wedi bod yn cymryd eu camau cyntaf yn y byd go iawn ac rydym wedi bod yn ymarfer a chynllunio'r sioe i Gaeredin ar yr un pryd. Mae wedi bod yn hynod o anodd ar adegau ond rydym i gyd yn edrych ymlaen yn ofnadwy at fynd!"

Perfformiwyd rhywfaint o ddeunydd "Thespianage" ym Mangor a chymerodd y grŵp y cam anarferol o ofyn i'r gynulleidfa am eu hymateb i'r deunydd:

"Roedd yn sicr yn risg - ond roedd yn werth ei wneud! Cawsom ymateb gwych ac rydym wedi gwneud newidiadau yn seiliedig ar hynny. Roeddwn yn falch iawn o gael barn torf Bangor, maen nhw wedi bod yn gefnogol ym mhob sioe rwyf wedi bod yn rhan ohoni yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, ac wedi dylanwadu ar y deunydd byddwn yn ei berfformio yng Nghaeredin."

Ch-dd: Daw Patrick Pritchard o Wigan; Roddy Shaw, o Tullamore, Iwerddon; Rory Cooke, o Fanceinion a Josh Fenby-Taylor o Oakham, yng Nghanolbarth Lloegr.Ch-dd: Daw Patrick Pritchard o Wigan; Roddy Shaw, o Tullamore, Iwerddon; Rory Cooke, o Fanceinion a Josh Fenby-Taylor o Oakham, yng Nghanolbarth Lloegr.Casgliad o sgetsys yw'r sioe, "Thespianage", sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau yn cynnwys actorion gorddramatig ac arbrofion seicolegol dan arweiniad pedwar asiant sy'n ymlid y grŵp, o'r enw 400Hats.

Caiff y sioe ei pherfformio yn Theatre 3, Surgeon’s Hall (V53) fel rhan o theSpaceUK. Bydd y sioe yn rhedeg rhwng 12 a 24 Awst (ac eithrio dydd Sul) ac yn dechrau am 8 o'r gloch y nos, dim ond £5 yw pris tocyn (pris gostyngol £4).

"Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn hoffi ein tudalen Facebook neu'n ein dilyn ar Twitter i gael gwybod sut mae pethau'n mynd i ni!"

www.facebook.com/thespianage2013

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013

Site footer