Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gweithio wrth astudio ym Mangor

Mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn chwilio am waith rhan-amser yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Efallai nad er mwyn ennill arian yn unig yw eu rheswm dros wneud hynny, ond hefyd i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio. 

Mae llawer o fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Bangor yn troi at y rhaglen Byddwch Fentrus, sy'n rhoi amrywiaeth o wasanaethau i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu gefnogi myfyrwyr i ddechrau busnes newydd.

Un o'r myfyrwyr hyn yw Emma Tiernan, myfyriwr MRes yn Ecoleg, Ysgol Gwyddorau Biolegol.  Mae wedi dechrau busnes gyda ffrind yn gwerthu cynhyrchion croesbwyth wedi'u gwnïo â llaw. Mae Emma, o Ddulyn, a'i phartner busnes, Lyndsey Waite, yn cynllunio patrymau gyda gwahanol themâu.  Gall y rhain amrywio o gylchoedd allweddi, bathodynnau i arwyddion handlenni drysau.Emma TiernanEmma Tiernan

“Mae ProcrastaStitch yn canolbwyntio ar gynhyrchion croesbwyth wedi'u gwneud â llaw. Rydyn ni'n gwerthu'n rhan fwyaf o'n cynnyrch ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol. Rydym ni wedi ymddangos ym Marchnad Nadolig Myfyrwyr Byddwch Fentrus Bangor, ac yn gobeithio gallu gwerthu mewn ffeiriau crefftau lleol eraill. Ein nod yw cael digon o fomentwm i allu gwerthu ein cynhyrchion mewn digwyddiadau ComicCon o gwmpas Prydain.”

Graddiodd Emma, sy'n 23, mewn Sŵoleg ym Mangor, a phenderfynodd aros yma i barhau gyda'i hastudiaethau. Er bod ei busnes bach yn hollol wahanol i'r MRes, mae Emma'n teimlo iddo'i helpu i feithrin sgiliau ychwanegol.

"Mae ei ochr greadigol yn wrthgyferbyniad i'm hastudiaethau. Rydw i wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu, rheoli project a gwerthu, yn ogystal â dysgu rhai sgiliau cadw cyfrifon sylfaenol. Rydw i'n mwynhau'r gwyddorau biolegol ac yn gobeithio aros mewn ymchwil am yrfa hir. Fodd bynnag, hoffwn i ddatblygu ProcrastaStitch yn fy amser hamdden i helpu i ariannu unrhyw raddau ymchwil yn y dyfodol.”

Mae Llio Elen Lloyd-Williams yn fyfyrwraig arall ym Mangor wnaeth benderfynu gweithio tra’n astudio ei gradd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Llio Lloyd-WilliamsLlio Lloyd-Williams

Ar ôl cwblhau ei hail flwyddyn, cafodd Llio  y cyfle i ddechrau busnes arylwio, Te Bach.

“Roeddwn wedi gweithio yng Nghlwb Golff Cricieth ers tair blynedd yn help tu ôl i’r bar a choginio. Yna, cefais gynnig gan y perchennog i redeg y clwb dros gyfnod yr haf. Yn gyntaf nid oeddwn yn siŵr, ond rydw i yn berson sydd wastad yn hoffi trio pethau newydd, yn hytrach na difaru nes ymlaen. Gan fy mod wrth fy modd yn coginio a gwneud cacennau, roedd cyfle yma i mi geisio cael blas ar redeg busnes, a chael gwneud hynny drwy wneud un o fy hoff ddiddordebau.”

“Rydw i wedi datblygu nifer o sgiliau defnyddiol. Nid ydw i yn berson trefnus iawn fel rheol, ond wrth redeg Te Bach, roedd bod yn drefnus yn sgil allweddol. Yn aml iawn wrth redeg busnes, mae problemau’n codi, felly roedd y gallu i weithio mewn tîm yn hanfodol. Hefyd, datblygais y sgil o arweinyddiaeth - dyma'r sgil yr oeddwn yn weld yn sialens fwyaf! Felly rydw i’n teimlo fy mod wedi datblygu llawer o sgiliau fydd yn ddefnyddiol i mi ar gyfer y dyfodol.”

Ar adegau mae Llio, 22, wedi ei gweld yn anodd i gyfuno’r gwaith gradd gyda’r gwaith arlwyo.

“Mae hi’n gallu bod yn anodd i gael y balans rhwng gweithio ac astudio, gan fod gweithio yn gallu tynnu eich sylw oddi ar astudio. Rydw i wedi gweithio fwyaf drwy'r adegau distaw o’r gwaith coleg, ac wedi gwrthod archebion yng nghyfnod wythnosau traethodau ac arholiadau fel fy mod yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith coleg. “

“Credaf ei bod hi’n dda os allwch chi weithio wrth astudio, er mwyn cael profiad o’r byd gwaith cyn gadael y brifysgol, yn hytrach na cheisio am swyddi gyda gradd yn unig a dim math o brofiad. Ond mae’n bwysig darganfod y balans rhwng gweithio ac astudio, a rhoi astudio yn flaenoriaeth bob amser.”

Gall cyflogaeth ran-amser fod yn fuddiol i fyfyrwyr, gan ei fod yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau, nid yn unig cyflawniad academaidd.  Efallai na fydd gweithio ac astudio'n gweithio i bawb, ond prif reswm y myfyriwr, Jake Sallaway-Costello, oedd gallu ariannu ei radd.

Mae Jake, o Ddwyrain Swydd Northampton yn astudio BSc (Anrh) Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd ym Mangor.  Yn ystod ei gyfnod yma, mae wedi bod yn gweithio mewn gwahanol lefydd, yn amrywio o fod yn rheolwr shifftiau mewn sefydliad bwyd cyflym, i Hwylusydd Arweinwyr Cyfoed.Jake Sallaway-CostelloJake Sallaway-Costello

“Hoffwn i ddweud mai'r swyddi sydd wedi rhoi sgiliau i mi yw fy Interniaeth Marchnata, a roddodd syniad da i mi o waith lefel graddedigion, a gweithio gyda thîm academaidd profiadol; fy swydd Cynghorwr Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol a helpodd fi i fireinio fy sgiliau cyfathrebu wrth weithio gyda siaradwyr Saesneg ail iaith; a'm swydd Hwyluso Arweinwyr Cyfoed, sydd wedi rhoi profiad gwych i mi o gynorthwyo â gweithredu project ar raddfa fawr.”

Ar ôl graddio mae Jake, sy'n 20, yn gobeithio mynd i faes ymchwil mewn Seicoleg Iechyd, er mwyn dilyn PhD.

Bwriad Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA) yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu medrau trwy’r gweithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol y dewisant gymryd rhan ynddynt tra byddant yn y brifysgol.

Meddai John Jackson, Rheolwr Cyflogadwyedd gyda Chymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (BEA):  

“Mae'r gallu i gydbwyso'ch cyflawniad academaidd ochr yn ochr â datblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy, o weithle neu swydd wirfoddoli, yn union y math o gyfuniad o rinweddau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Mae'r cynllun BEA yn darparu'r llwyfan i gofnodi'ch gweithgarwch, ac mae'n rhoi arweiniad ar ddisgrifio sut mae'r cyfan yn gysylltiedig, ac yn berthnasol.”

Am fwy o wybodaeth am 'Byddwch Fentrus' a Chymhwyster Cyflogadwyedd Bangor, ewch i:

http://www.bangor.ac.uk/gyrfaoedd 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2015

Site footer