Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwobr bwysig i broject ymchwil o Brifysgol Bangor

Rhoddwyd gwobr bwysig i broject ymchwil, a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd dan y rhaglen FrameWork7, ac a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Bangor.

Cafodd consortiwm ProMine, a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol (Yr Athro Barrie Johnson, a Dr. Barry Grail, Sabrina Hedrich a Catherine Kay), ei gyllido i gynhyrchu nwyddau newydd o adnoddau mwynau a deunyddiau gwastraff sydd i'w cael yn Ewrop.    Fel rhan o hyn fe wnaeth tîm Bangor ddatblygu dulliau newydd o adfer metelau a syntheseiddio mwynau o ddyfroedd gwastraff, gan ddefnyddio rhywogaethau newydd o ficro-organebau.
 
Fe wnaeth llwyddiant consortiwm ProMine yn cyflawni'r holl amcanion hyn beri i'r project dderbyn y wobr uchaf ymhlith holl brojectau Fframwaith yr UE ym maes technolegau diwydiannol yng Nghynhadledd Technolegau Diwydiannol 2014 yn Athen.    Roedd y beirniaid o Grŵp Ymgynghorol Ewropeaidd a oedd yn cynnwys arbenigwyr adnabyddus yn cynrychioli sefydliadau polisi, diwydiant ac ymchwil ym maes Technolegau Diwydiannol.  

Derbyniwyd y wobr ar ran consortiwm ProMine gan Drs. Juha Kaja a Pekka Nurmi o Arolwg Daearegol Y Ffindir. Y wobr oedd penddelw mawr o dduwies Sycladig y cafwyd hyd iddo ar ynys Amorogos ac a oedd yn perthyn i'r cyfnod 2800-2300 C.C.  

Meddai'r Athro Barrie Johnson am y wobr:  "Mae'n hynod bleserus gweld yr ymchwil sylweddol a llwyddiannus a wnaed gan wyddonwyr ym Mangor a'n cydweithwyr yn Ewrop yn cael ei chydnabod mewn achlysur mor bwysig.  Mae rhaglen Fframwaith yr UE ar fynd ers 30 mlynedd ac mae gweld ProMine yn cael y wobr uchaf yn ei ddosbarth yn newyddion rhagorol."

Roedd ProMine yn broject pedair blynedd (2009-2013) a oedd yn cynnwys 31 o sefydliadau partner o 11 o wledydd Ewropeaidd ac roedd ganddo gyllideb o €18 miliwn.  

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014

Site footer