Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwobr Nobel i gynfyfyriwr Prifysgol Bangor

Yr Athro Robert Edwards: Cedwir pob hawl. Credyd Bourn HallYr Athro Robert Edwards: Cedwir pob hawl. Credyd Bourn HallMae’r Athro Robert Edwards FRS, a raddiodd o Brifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2010.

Datblygodd yr Athro Edwards FRS ddull ffrwythloni in vitro (IVF), sydd wedi galluogi nifer fawr o gyplau i gael plant, na fyddent wedi gallu fel arall.

Datblygodd y dechneg ar y cyd â Partick Steptoe, a fu farw yn 1988.

Enillodd Robert Edwards ei radd gyntaf  mewn Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor yn 1951. Taniwyd ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd mewn mamaliaid gan yr Athro Rogers Brambell, a oedd yn un o Athrawon amlycaf Prifysgol Bangor ar y pryd. Yn dilyn hyn cafodd yr Athro Edwards yrfa lwyddiannus ym Mhrifysgol Caergrawnt.

“Rydym yn llongyfarch yr Athro Edwards yn galonnog. Mae ei ymchwil wedi dod â hapusrwydd i gymaint o deuluoedd ledled y byd. Mae’r Athro Edwards hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor ac rydym wrth ein bodd drosto ei fod wedi ennill cymeradwyaeth mor uchel am ei gyfraniad neilltuol i wyddoniaeth - mewn modd sydd wedi dod â hapusrwydd i gyn gymaint,” meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010

Site footer