Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwyddonwyr gwlypdir Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn sioe BBC

A typical upland wetland.: Inage credit: Mark Cooper.Y Mawndir a welir dros ystod eang o dir uchel.: Credyd llun: Mark Cooper.

Mae gwyddonwyr gwlypdir o Brifysgol Bangor wedi bod yn cymryd rhan mewn sioe BBC am un o gynefinoedd pwysicaf Cymru.

Ymddangosodd dau aelod o Grŵp Gwlypdiroedd Bangor y brifysgol ar gyfres boblogaidd Radio Wales, Science Café.

Siaradodd yr Athro Chris Freeman a Dr Christian Dunn â chyflwynydd y rhaglen, Adam Walton, am bwysigrwydd y Migneint – ardal eang iawn o orgors yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Dr Christian Dunn, sy'n gyfrifol am y cwrs MSc Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor: Roedd yn wych bod Adam a thîm y Science Café â diddordeb mewn gweld y Migneint. 

"Mae'r ardaloedd hyn o fawndir, sy'n flanced dros rai o'n mynyddoedd, yn aml yn cael eu hanwybyddu ond maent yn wlypdiroedd hynod o bwysig am nifer o resymau.

"Nid yn unig maent yn darparu cynefinoedd unigryw i anifeiliaid a phlanhigion ond gallant hefyd rwystro llifogydd, effeithio ar ansawdd ein dŵr yfed a hyd yn oed reoli newid hinsawdd - oherwydd y cyfaint o garbon a gedwir ynddynt."

Dr Christian Dunn  yn hel samplau ar gors.Dr Christian Dunn yn hel samplau ar gors.ywedodd yr Athro Chris Freeman, sy'n bennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol: "Mae bob amser yn beth da dangos i bobl pa mor bwysig yw ein mawndiroedd ac amlygu rhywfaint ar y gwaith rydym yn ei wneud ar y pwnc yma ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'r Migneint yn ardal hynod o drawiadol ac mae llawer o ymchwil bwysig wedi cael ei gwneud yno."

"Ond yn amlwg mae'n ardal sy'n cael llawer o law; yn ffodus roedd y tywydd yn wych pan ddaeth y Science Café felly cawsant ddiwrnod rhagorol yn archwilio'r safle ac ni chafodd unrhyw un eu traed yn rhy wlyb!" ychwanegodd.

Gallwch wrando ar y rhaglen ar wefan Science Café y BBC:  http://www.bbc.co.uk/programmes/b06dpyx7

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2015

Site footer