Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats

Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl.

Eu syniad ar gyfer codi arian yw cynnal gŵyl undydd, Draig Beats, gan roi cyfle i bawb oedd eisiau bod o gymorth i gydweithio.

Roedd yn ddegawd union ers i fyfyrwyr Bangor drefnu’r digwyddiad Botanical Beats cyntaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o Ardd Fotanegol Treborth Prifysgol Bangor. A hithau’n fyfyrwraig yn y Brifysgol ar y pryd, roedd Sophie’n allweddol wrth drefnu’r digwyddiad. Penderfynwyd felly, gyda chymorth  Prifysgol Bangor a Chyfeillion Gardd Fotanegol Treborth, y byddai gerddi hardd Treborth yn llwyfan perffaith ar gyfer Draig Beats.

Ers  y cychwyn, nod Draig Beats yw bod yn ddigwyddiad cymunedol. Mae’n cael ei drefnu gan dîm gwych o bobl sy’n gweithio’n ddiflino ac yn rhoi o’u hamser am ddim. Maent wedi derbyn cefnogaeth werthfawr gan fusnesau lleol, perfformwyr, troellwyr, dawnswyr,  ymarferwyr celfyddydau, chrefftau a chadw’n iach, sydd i gyd yn cefnogi’r diwrnod drwy drefnu, ymddangos ar y diwrnod, neu gyfrannu at yr ocsiwn ar-lein.

Mae Drymbago, y band yr oedd Sophie’n aelod ohono, hyd yn oed wedi rhoi holl elw gig diweddar yn Neuadd Ogwen tuag at yr achos.  Yn ymddangos ymhlith y perfformwyr gwych sydd yn rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim mae  grwpiau lleol Drymbago, Yucatan, Hedge Gods a Mouton ac i goroni’r digwyddiad, bydd perfformiad gan Feistr y Kora a drymiwr sydd â bri rhyngwladol, Seckou Keita. Bu Seckou’n perfformio yn Pontio, Bangor yn ddiweddar gyda’r delynores Catrin Finch.  Mae eu halbwm newydd ‘Soar’ ar frig y siartiau ‘easy listening’ a cherddoriaeth byd. Mae Sophie’n frwd dros gerddoriaeth Affricanaidd ac yn ffan fawr o Seckou. Cyfarfu’r ddau gyntaf pan aeth Seckou i weld Sophie yn yr ysbyty yn 2016 a chwarae’r kora iddi. Dywedodd Sophie mai dyma gychwyn ei  hadferiad. “Anhygoel! Rwy’n ei gofio’n chwarae i mi yn yr ysbyty!” oedd ymateb Sophie wrth glywed fod Sekou am chwarae yn Draig Beats.

Meddai partner Sophie, Robert:

“Nid unig nod Draig Beats yw cael Sophie adref, mae hefyd yn dod â’r gymuned at ei gilydd, mewn ffordd sy’n nodweddiadol o ysbryd Sophie!”

Mae Ymddiriedolaeth Sophie Williams wedi ei sefydlu i gefnogi’r ymgyrch. Bydd 100% o arian y tocynnau yn mynd at yr elusen. Bydd Sophie yn gadael ei chartref gofal am y diwrnod i gael mynychu’r ŵyl ac mae hi wedi ei syfrdanu gan y gefnogaeth a’r cariad gan gymuned Gogledd Cymru tuag at wireddu ei breuddwyd o gael dod adre.

Mae Draig Beats  yn digwydd rhwng 11.00 a 8.00 Ddydd Sadwrn 9 Mehefin yng Ngardd Fotanegol Treborth, ger Pont y Borth, Bangor gyda pherfformiadau, gweithdai celfyddydau, crefftau, bwyd a diod amheuthun ar gyfer diwrnod braf i’r holl deulu.

Tocynnau:

Oedolyn: O flaen llaw £20 – ar y diwrnod £25
Plentyn 12-17: o flaen llaw £10 -  ar y diwrnod: £15
Mynediad am ddim i blant o dan 12
Tocyn teulu (2 oedolyn, 2  blentyn 12-17) £50 (o flaen llaw yn unig).

Tocynnau ar gael drwy Neuadd Ogwen neu ar-lein. 

Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan neu Draig Beats ar Facebook: Draig Beats.  

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Site footer