Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Lansio Rhaglen Hyfforddi Ddoethurol Envision

Partneriaeth Hyfforddi Doethurol yw 'Envision', a gyllidir gan NERC ac sydd dan arweiniad grŵp tra llwyddiannus o sefydliadau ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn recriwtio 60 o fyfyrwyr PhD (12 bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf - yn dechrau ym mis Ionawr 2014).

Mae'r rhaglen yn meddu ar yr adnoddau i roi i genhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen i wynebu sialensiau byd sy'n newid.

Cewch restr o'r swyddi gwag a mwy o fanylion am y cyllid ar wefan Envision.
 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014

Site footer