Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Penodi Athro’n Gadeirydd Gweithgor Rhyngwladol

Yr Athro Gary Carvalho.Yr Athro Gary Carvalho.Mae’r Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol yn Gadeirydd ar weithgor ar gyfer  Cyngor Rhyngwladol Ar Archwilio’r Moroedd (The International Council for the Exploration of the Sea – ICES). Mae i gadeirio’r gweithgor ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd Môr (Working Group on Application of Genetics in Fisheries and Mariculture – WGAGFM) am dair blynedd o 1 Ionawr 2015.

Mae ICES yn rhoi ystyriaeth i’r modd y mae gweithgareddau pobl yn effeithio ar yr ecosystem yn y môr, ac ar y modd y mae’r ecosystem, yn ei thro, yn effeithio ar weithgareddau pobl. Drwy wneud hyn, mae ICES  yn sicrhau bod y wyddoniaeth orau ar gael, fel y gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau benderfynu’n wybodus ar ddefnydd cynaliadwy ar yr amgylchedd a’r ac ecosystemau morol.

Mae nifer o’i weithgareddau’n cael eu trefnu yng nghyswllt gwahanol weithgorau sy’n ystyried materion penodol yn ymwneud â rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau morol.

Fel Athro Ecoleg Foleciwlaidd, mae’r Athro Gary Carvalho, sydd yn gweithio yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, yn  ddelfrydol ar gyfer y rôl newydd. Mae’n arbenigwr blaenllaw ym maes geneteg pysgodfeydd. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau rhaglenni ymchwil ar raddfa fawr a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i  ddefnyddio technegau geneteg i warchod pysgod a physgodfeydd.

Mae Gweithgor ICES ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd Môr  (WGAGFM), yn ystyried sut y gall  egwyddorion a chymwysiadau mewn geneteg gyfrannu at y broses o reoli adnoddau pysgodfeydd a ddefnyddir.

Esbonia’r Athro Carvalho:

“Ceir mwyfwy o ymwybyddiaeth o’r posibiliadau o ddefnyddio offer geneteg fel ‘tagiau’ ar gyfer dilyn pysgod a chynnyrch pysgod ac i adnabod unigolion a phoblogaethau o bysgod yn ogystal â’r rôl fwy sylfaenol ond hanfodol yng nghyswllt cadwraeth adnoddau genetig.

Wedi’i chyfuno, mae’r wybodaeth hon yn chwarae rôl bwysig mewn hybu   gwydnwch ac adferiad poblogaethau a ddefnyddir. Dim ond drwy adnabyddiaeth a monitro deallus o’r amrywiaeth yn y boblogaeth,  yn enwedig y nodweddion hynny a bennir yn enynnol, y bydd modd datblygu strategaethau i fwyafu  a chadw adnoddau genynnol, fel y bydd modd ymaddasu i newid amgylchedd.”

Mae Gary Carvalho yn aelod o Weithgor ICES  ers ugain mlynedd ac wrth ei fodd i gael y cyfle i gyfrannu at genhadaeth ICES  yn y blynyddoedd i ddod.

Yn ogystal â chytgordio cyfraniad at Weithgareddau eraill gan ICES, mae Cadeirydd y gweithgor hefyd yn gyfrifol am y Cyfarfod Blynyddol, yn ogystal ag am ddatblygu  llwyfannau ar gyfer ymwneud â rhaglen hyfforddiant ICES a’i Symposia Gwyddonol Blynyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015

Site footer