Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Poblogaeth Morlo Eliffant ddiflanedig yn datgelu "peiriant amser" esblygiadol.

Gweddillion mymiedig morloi eliffant deheuol ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig. : llun gan Brenda HallGweddillion mymiedig morloi eliffant deheuol ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig. : llun gan Brenda HallGall amrywiaeth enynnol o fewn poblogaethau sydd ar wahân ddatblygu'n eithaf cyflym mewn cyd-destun esblygiadol, yn ôl canfyddiadau papur a gyhoeddwyd yn nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol B (sydd ar gael ar-lein 29.1.14).

Canfuwyd fod poblogaeth o forloi eliffant deheuol a oedd yn ffynnu yn ôl pob golwg ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig am ryw saith mil o flynyddoedd, sy'n gyfnod cymharol fyr mewn cyd-destun esblygiadol, yn grŵp hynod o amrywiol yn enynnol, yn fwy amrywiol mewn gwirionedd na phoblogaethau morloi eliffant sy'n bodoli ar hyn o bryd.   

Ni fu astudiaethau eang i ba raddau y gall twf mewn poblogaeth a phoblogaeth fawr gynaledig arwain at gynnydd sylweddol mewn amrywiaeth enynnol. Fodd bynnag, roedd astudio gweddillion mymiedig 223 o forloi o'r gymuned arunig hon yn cynnig cyfle unigryw i'r math yma o eneteg poblogaeth gymhwysol brofi'r theori sylfaenol.

Y casgliad a ddaethpwyd iddo o fodelu'r boblogaeth yn enynnol, gan ddefnyddio dulliau ystadegol Bayes, oedd bod yr amrywiaeth yn digwydd in situ yn y boblogaeth, yn hytrach na thrwy ei gyflwyno i'r grŵp gan fudo newydd o boblogaethau eraill.

Gweddillion mymiedig morloi eliffant deheuol ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig.: Llun gan Brenda Hall.Gweddillion mymiedig morloi eliffant deheuol ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig.: Llun gan Brenda Hall.Ymddengys fod y gytref genhedlu neilltuol hon wedi ffynnu rhwng pwynt oddeutu 7,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ôl diwedd yr Oes Iâ fawr ddiwethaf ac yn gymharol â dechrau'r Oes Efydd, hyd at ganol y ddeunawfed ganrif. Mwy na thebyg galluogodd enciliad y silff iâ a pheth cynhesrwydd ynghyd â chynefin arfordirol ffafriol, i'r boblogaeth morloi eliffant gynyddu'n gyflym ac i faint mawr iawn.

Mae'r canfyddiadau’n awgrymu y gallai rhai poblogaethau sydd dan fygythiad gan newid hinsawdd neu ffactorau eraill, fel colli cynefin neu fod ar wahân, allu gwneud yn well nag a ragwelwyd, os yw'r amgylchiadau amgylcheddol yn ffafriol.

Esbonia'r prif awdur Mark de Bruyn, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor:

“Mae'r potensial ar gyfer twf cyflym mewn lefelau o amrywiaeth enynnol yn arwyddocaol, gan fod amrywiaeth enynnol yn darparu'r deunydd crai i boblogaethau a rhywogaethau addasu i newid amgylcheddol, fel newid hinsawdd. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu o dan yr amodau "cywir", a allai gynnwys canfod cynefin cenhedlu newydd a ffynonellau bwyd addas, y gallai cynhyrchu amrywiaeth enynnol yn hynod o gyflym alluogi rhywogaethau fel y morloi eliffant, sy'n gallu cynyddu maint eu poblogaeth yn rhwydd iawn, i ymateb dros gyfnodau byr iawn i amgylcheddau sy'n newid."

Eglurodd ymhellach:

"Mae'n bosib y gall rhywogaethau sy'n gallu dod o hyd i gynefin newydd wrth i'r hinsawdd newid, ac sy'n gallu cynyddu eu poblogaeth yn gyflym, gael budd o'r gallu i gytrefu ardaloedd newydd yn gyflym, am eu bod yn gallu cynyddu eu lefelau o amrywiaeth enynnol yn unol â hynny. Efallai y bydd rhywogaethau o'r fath angen llai o ymyrraeth pan fo hinsawdd yn newid. Er enghraifft, argymhellwyd strategaethau fel "mudo gyda chymorth" fel ffordd o wrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer rhywogaethau llai symudol ac yn achos graddfeydd isel o dwf poblogaeth. Nid yw hyn o bell ffordd yn awgrymu bod newid hinsawdd anthropogenig yn beth da; collwyd y lefelau uchel yma o amrywiaeth enynnol gyda diflaniad y boblogaeth yn y mileniwm diwethaf."

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2014

Site footer