Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prifysgol Bangor yn cefnogi ailgyflwyno’r afanc ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2018

Afanc: Llun gan Allard Martinius drwy'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt CymruAfanc: Llun gan Allard Martinius drwy'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt CymruWrth nodi Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2.2.18), mae Prifysgol Bangor wedi gosod ei chefnogaeth tu cefn i’r broses o ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru.

Mae gwyddonwyr y Brifysgol yn galw am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Prosiect Afancod Cymru, sy’n ceisio ailgyflwyno’r anifail eiconig yn y wlad. Ar hyn o bryd, mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn edrych ar safleoedd posib ar gyfer rhyddhau’r afancod. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu monitro er mwyn ceisio gweld a fyddai ailgyflwyno ar raddfa eang yn bosib.

Dywedodd Yr Athro Chris Freeman, sy’n arwain Grŵp Gwlyptiroedd Bangor yn y brifysgol, fod gan y project eu cefnogaeth lawn:

“Cafodd afancod eu hela i’r fath raddau nes diflannu’n llwyr yn y DU 400 mlynedd yn ôl a bellach mae Lloegr a’r Alban yn cymryd camau tuag at ailgyflwyno’r anifail anhygoel yma,” meddai’r Athro Freeman.

“Mae’n rhaid i ni weld os oes modd gwneud rhywbeth tebyg yma yng Nghymru

“Mae’r argaeau y mae’r afancod yn enwog am eu creu â’r gallu i greu cynefinoedd unigryw ar y gwlyptiroedd, yn llawn bywyd gwyllt ac â’r gallu hefyd i arbed llifogydd yn ein trefi a’n pentrefi.

Afanc ar foncyff: Llun gan Allard Martinius drwy'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt CymruAfanc ar foncyff: Llun gan Allard Martinius drwy'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru“Dyma pam ein bod ni, fel rhan o ddathliadau Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd, yn taflu ein holl bwysau y tu cefn i ymdrechion Prosiect Afancod Cymru, a’n gobaith yw y bydd eraill yn ei gefnogi hefyd,” meddai’r Athro Freeman.

Meddai Alicia Leow-Dyke o Prosiect Afancod Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar o dderbyn cefnogaeth Prifysgol Bangor.”

“Chydig ganrifoedd yn ôl, roedd afancod a’u hargaeau yn olygfa gyffredin yng Nghymru – rydan ni’n awyddus i weld os oes modd ailgyflwyno hynny,” ychwanegodd.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes, mai rôl y brifysgol yw cefnogi projectau o bwys cenedlaethol o’r math yma.

“Mae afancod â’r gallu i ddod a nifer o fanteision i dirwedd a phobl Cymru, felly mae’n dda o beth ein bod yn edrych ar y posibilrwydd o’u hailgyflwyno.

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd ein gwyddonwyr ym maes glwybtiroedd yn cyfrannu eu harbenigeddau at waith Prosiect Afancod Cymru,” meddai.

Ceir mwy o wybodaeth ar waith Prosiect Afancod Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan y People’s Postcode Lottery, yma: www.welshbeaverproject.org

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

Site footer