Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prifysgol Bangor yn cynnal y symposiwm pegynol gyntaf

Mae Symposiwm Pegynol' yw'r cyntaf o'i fath i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (Sadwrn 8 Rhagfyr).

Trefnwyd 'Symposiwm Pegynol Bangor’  a gynhelir yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ar y cyd gan Rwydwaith Pegynol y DU a Chymdeithas Endeavour, cymdeithas myfyrwyr y Brifysgol ar gyfer gwyddorau môr.

Meddai Coleen Suckling, un o brif drefnwyr y digwyddiad: "Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr brofi sut mae cynhadledd wyddonol yn gweithio. Bydd hyn  ynddo’i hun yn gaffaeliad cadarnhaol  ar gyfer eu gyrfaoedd.  Yn ogystal, rydym wedi cynnull panel mentoriaid, sy’n cynnwys arbenigwyr pegynol, fel y gall myfyrwyr ofyn cwestiynau, fel "Sut mae cael eich troed i mewn i faes gwyddoniaeth begynol ac ymchwil gyffredinol". Mewn cyfnod anodd, lle mae effeithiau dirwasgiad yn dal yn amlwg a’r farchnad swyddi’n fwyfwy cystadleuol, rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel hyn yn fodd, nid yn unig i ddangos bod Prifysgol Bangor  yn sefydliad  sy’n gefnogol i fyfyrwyr ond, yn bwysicach hyd yn oed, yn un sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol,  gan roi mantais gystadleuol iddynt. Ar ben hyn roeddwn eisiau cynyddu ymwybyddiaeth ymysg y gymuned wyddonol am y wyddoniaeth begynol gyffrous sy'n cael ei chyflawni gan ymchwilwyr yng Nghymru.”

Mae Coleen yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol ac yn ddiweddar  cwblhaodd PhD gyda'r British Antarctic Survey a Phrifysgol Caergrawnt.

Meddai Ben Stachen o Gymdeithas Endeavour a myfyriwr MSc ar y Cwrs Amgylcheddol Morol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion: "Mae cymryd rhan yn y Gymdeithas Endeavour drwy gydol fy nghyfnod israddedig wedi fy nghyflwyno i ystod eang o broblemau amgylcheddol a wynebir gan foroedd ein byd heddiw. Mae’ astudio’r rhanbarthau Pegynol yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgu am warchod yr amgylchedd. Mae'r symposiwm yn gyfle perffaith i ddysgu a rhannu'r hyn a wyddom â'i gilydd."


Dywedodd Rebekah Newstead, aelod arall o'r pwyllgor trefnu a myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn astudio Ecoleg Plancton yn Antarctica: "Mae'n gyfle gwych i gynnal y 'Symposiwm Polar' ym Mangor. Mae’n creu cyfle i ddod a gwyddonwyr o ystod o ddisgyblaethau at ei gilydd i rannu’u canfyddiadau a phrofiadau o weithio mewn rhanbarthau pegynol. Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at wyddonwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan roi cyfle iddynt gyflwyno’u gwaith ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr pegynol. Mae astudio amgylcheddau cymharol ddigyffwrdd yn gyfle gwych i ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd fyd-eang ar amgylcheddau pegynol."


Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i wyddonwyr sydd ar ddechrau’u gyrfa cyflwyno’u hymchwil mewn amgylchedd hamddenol, tra hefyd clywed cyflwyniadau gan wyddonwyr pegynol blaenllaw. Mae’r Prif siaradwyr yn cynnwys Dr Stephanie Wilson, Darlithydd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor a Nick Hughes o'r Gwasanaeth Iâ Môr Norwy a Phrifysgol Caeredin.

Mae'r digwyddiadau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa, gyda chyfle i rwydweithio, cael cyngor ar yrfaoedd pegynol a chymryd rhan mewn panel mentor  a fydd yn ceisio ateb cwestiynau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o ran hyrwyddo eu gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth begynol ac ymchwil cyffredinol.

Dywedodd Dr Chris Richardson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion: "Mae arbenigwyr blaenllaw yn rhyngwladol yn y gwyddorau polar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Maent rhyngddynt yn cwmpasu ystod o ddisgyblaethau morol, gan gynnwys ymchwilio i effaith diflaniad y gorchudd iâ môr tymhorol yn yr Arctig ar gylchrediad cefnfor a thywydd Ewropeaidd, y cyfansoddiad bio-geocemegol y cefnforoedd pegynol a hanes y rhanbarth dros amser daearegol - pob un ohonynt yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol a beth allai ddigwydd yn debygol yn y rhanbarth hwn sydd mor bwysig ac arwyddocaol oherwydd newidiadau hinsawdd."

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012

Site footer