Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau. 

Daw’r canlyniadau o’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy’n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy’n rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.

Meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor – Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymateb i’r canlyniadau:

“Yn ogystal â’i hanes hir o ragoriaeth academaidd, mae Bangor ag enw da am ddarparu addysgu a chefnogaeth o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, a’r canlyniadau gwych hyn yn dyst i hynny. Rydym wedi llwyddo i gyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y Brifysgol, a’r canlyniadau gwych hyn yn adlewyrchu hynny.”

“Mae’n amlwg fod lle i ddathlu’r ffaith fod bron i chwarter ein pynciau gradd â chanran boddhad o 100%, ac felly hefyd ein sgôr boddhad cyffredinol o 91%, sy’n ein gosod ni’n gyfartal â Phrifysgol Rhydychen, ac ar safle uwch na phob un arall o Sefydliadau Grŵp Russell.”

Yn ogystal â chyrraedd y brig ar y tabl cyffredinol yng Nghymru a dod yn gydradd 8fed o blith prifysgolion anarbenigol y DU, mae Bangor ar frig tablau’r DU mewn chwe phwnc, yn ôl adborth a gafwyd oddi wrth raddedigion, ac ar y Brif yng Nghymru mewn 12 o bynciau. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn y 10 uchaf o brifysgolion y DU am 19 o’r 39 o feysydd pwnc a ddysgir yn y Brifysgol.

Mae’r arolwg yn holi myfyrwyr am yr addysgu, yr asesu a’r adborth ar eu cwrs, am gefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, a’r modd y cefnogir eu datblygiad personol. Ymateb yn ffafriol wnaeth myfyrwyr Prifysgol Bangor, gan osod y Brifysgol yn y ‘10 uchaf’ o blith prifysgolion y DU yn ei chrynswth mewn penwar o’r meysydd hyn: addysgu; asesu/adborth; cefnogaeth academaidd a datblygiad personol, ac mae Bangor ar frig tabl prifysgolion Cymru mewn pump o’r chwe chategori, ac yn ail mewn un.

Ychwanegodd yr Athro Turnbull: “Mae’r data yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ddarpar-fyfyrwyr, ac yn adlewyrchu ein harbenigedd mewn addysgu, yr ydym yn ddiweddar wedi ennill Gwobr Academi Addysg Uwch amdano, fel y gallwn rannu ein harferion gorau â sefydliadau addysg uwch eraill yn y DU.”

“Hoffwn ddiolch  ein Undeb y Myfyrwyr am gydweithio gyda ni ar ein mentrau ar holl fyfyrwyr a gymerodd yr amser i ymateb i’r Arolwg.”

Sophie VentersSophie VentersDyma dywedodd Sophie Venters sydd newydd raddio efo gradd mewn Seicoleg am ei phrofiad ym Mangor:

Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol. Mae’r darlithwyr yn fy ysgol wedi bod yn anhygoel wrth roi cefnogaeth academaidd a bugeiliol a mynd yr ail filltir  dros eu myfyrwyr. Nid yn unig mae pwyslais yn cael ei roi ar ragoriaeth academaidd, ond hefyd mae sawl cyfle i wella eich siawns o gael swydd a’ch sgiliau fel y gellwch sefyll allan wrth ymgeisio am waith. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn ymwneud  llawer â Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, yn ogystal â chymryd rhan yng nghynllun Dylunio Trwy Fenter. Mae’r holl brofiadau hyn wedi ychwanegu at fy mhrofiad ym Mangor ac wedi gwneud fy amser yma yn fythgofiadwy.”

Jake Sallaway-CostelloJake Sallaway-CostelloRoedd gan Jake Sallaway-Costello, sydd newydd raddio efo gradd mewn Seicoleg efo Seicoleg Glinigol ac Iechyd hyd i'w ddweud: 

“Fe wnaeth fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor fy nhrawsnewid o fod yn weithiwr i fod yn berson proffesiynol. Roedd y cyfleoedd i ymgymryd ag interniaethau, dosbarthiadau iaith, projectau gwirfoddoli oedd yn cyd-fynd â’r cwricwlwm, a rhaglen datblygu personol-proffesiynol o safon ryngwladol, yn gosod Bangor ar wahân i brifysgolion eraill. Gwelodd Prifysgol Bangor y potensial ynof  a rhoi i mi brofiadau di-ri i ehangu fy ngyrfa; gan feithrin fy nghymhelliant i lwyddo. Graddiais gyda gwobrwyon, llwyddiannau a rhwydwaith proffesiynol cryf, gan fy mharatoi i fod yn hyderus wrth gamu mewn i’r farchnad swyddi gan wybod bod y sgiliau i lwyddo gen i.”

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Site footer