Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Project Gardd y Ddwy Ddraig

Bu Sam Herniman, myfyriwr ail flwyddyn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol & Daearyddiaeth gyfle i gynllunio'r ardd o dan gynllun 'BEA' y Brifysol- mae o a'r darlithwraig, Sophie Williams yn dangos y cynllun i'r Is-Ganghellor, Athro John G Hughes.Bu Sam Herniman, myfyriwr ail flwyddyn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol & Daearyddiaeth gyfle i gynllunio'r ardd o dan gynllun 'BEA' y Brifysgol- mae o a'r darlithwraig, Sophie Williams yn dangos y cynllun i'r Is-Ganghellor, Athro John G Hughes.

Mae Gardd Tsieineaidd gyffrous newydd i’w datblygu yng Ngardd Fotaneg Treborth, fel rhan o’r project ehangach ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd casgliad newydd o blanhigion meddyginiaethol Tsieineaidd yn cael ei greu yn yr Ardd Fotaneg. Bydd hyn yn rhan o Broject Gardd y Ddwy Ddraig, a fydd yn cysylltu Gardd Fotaneg Treborth y Brifysgol â Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna (XTBG) yn nhalaith Yunnan Tsieina, ar y cyd â phartneriaid eraill y project, Undeb Gerddi Botaneg Tsieineaidd, Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin, Cadwraeth Gerddi Fotaneg Ryngwladol a Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd Gardd Fotaneg Treborth yn cynyddu ei chasgliad o blanhigion meddyginiaethol Tsieineaidd yn ystod y flwyddyn i ddod.

Dywedodd Nigel Brown, Curadur Gardd Fotaneg Treborth:

“Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Confucius am gyllido project y casgliad o blanhigion. Unwaith y bydd wedi ei sefydlu, bydd y casgliad newydd o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y defnydd diwylliannol Tsieineaidd o blanhigion, i arddwyr brwd ac i’r gymuned Tsieineaidd leol. Bydd hefyd yn darparu adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwrs ôl-radd MSc newydd mewn Cadwraeth Planhigion.”

Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is -Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Bydd Project Gardd y Ddwy Ddraig yn ehangu ein gallu ar gyfer addysgu, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn y gwyddorau botanegol rhwng Cymru a Tsieina. Rydym yn edrych ymlaen yn benodol at y cyfleoedd y mae’n eu cynnig er mwyn croesawu myfyrwyr ac academyddion Tsieineaidd i Fangor ac i roi cyfle i’n myfyrwyr a’n staff weithio gyda’n cydweithwyr yn Tsieina drwy hyfforddiant newydd a rhaglenni cyfnewid.”

Yr Athro Chen Jin a'r Athro John G Hughes yn cyfnewid Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yn Ngardd Fotaneg Treborth.Yr Athro Chen Jin a'r Athro John G Hughes yn cyfnewid Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yng Ngardd Fotaneg Treborth.Dywedodd yr  Athro Chen Jin, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna:

“Mae’r cyswllt newydd rhwng Treborth a XTBG yn gam sylweddol tuag at greu cysylltiadau cryf i Gymru a Tsieina.  Mae’r Ardd Tsieineaidd newydd yn Nhreborth yn gyffrous iawn ac rwy’n falch o gael bod yn rhan o’r project.”

Bu'r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor a’r Athro Chen Jin o Undeb Gerddi Botaneg Tsieineaidd yn arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth mewn derbyniad yng Ngardd Fotaneg Treborth.  Hefyd yn bresennol oedd yr Athro Steve Blackmore, Botanegydd y Frenhines, a chyn-gyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Frenhinol yng Nghaeredin.

Mae’r project hefyd wedi derbyn arian gan y Cyngor Prydeinig. Mae’r digwyddiad dod â mwy nag wythnos o weithgareddau Tsieineaidd ym Mhrifysgol Bangor i ben – wythnos a gychwynnodd â chyngerdd cerddorol Sefydliad Confucius Llais y Ddwy Ddraig: Deialog cerddorol Cymru-Tsieina a gynhaliwyd ddydd Iau 1 Mai, ac yna Symposiwm Cyfnewidfa Lên Tsieina – Cymru a lansiad Canolfan newydd y Brifysgol ar gyfer Astudiaethau Dwyrain Asia ddydd Gwener 2 Mai. Cynhaliwyd hefyd Ŵyl Farcutiaid Tsieineaidd yng Ngardd Fotaneg Treborth ddydd Sul 4 Mai.



Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014

Site footer