Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Rhoi prawf ar waith arwyddocaol yn fyd-eang gan fyfyriwr a raddiodd o Fangor

Dr Phil TrathanDr Philip Trathan

Bydd polisi byd-eang newydd, a gychwynnwyd gan fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei brofi am y tro cyntaf, yn awr bod mynydd iâ anferthol, yr amcangyfrifir iddo fod yn fwy na chwarter maint Cymru, wedi torri'n rhydd o Antarctica.

Mae'r gŵr a raddiodd o Fangor, Dr Philip Trathan, yn arwain Bioleg Gadwraethol yn yr Arolwg Antarctig Prydeinig (British Antarctic Survey - BAS) byd-enwog. Un o'i lwyddiannau diweddar oedd gweld polisi yr oedd wedi ei gychwyn a'i wthio drwy nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, o'r diwedd, yn cael sêl bendith y Comisiwn Cadwraeth Adnoddau Bywyd Môr yr Antarctig (CAMLEOLIR).

Gan weithio gyda'i gydweithiwr, Dr Susie Grant o BAS, cyflwynwyd y papurau cyntaf i CCAMLR yn ôl yn 2011, ond dim ond yn 2016 y daethpwyd i'r cytundeb terfynol. Gall y Mesur Cadwraeth CCAMLR newydd yn awr roi diogelwch awtomatig ar gyfer rhannau o fôr a ddatgelir pan fydd sgafelli iâ, rhewlifoedd neu dafodau iâ yn cilio neu'n cwympo ar hyd Penrhyn yr Antarctig. Gall unrhyw rannau o fôr sydd newydd eu datgelu yn awr gael diogelwch awtomatig a'u pennu'n Ardal Arbennig ar gyfer Ymchwil Wyddonol.

Ar 12 Gorffennaf, ar ôl misoedd o ‘hongian ar edefyn’ bu i fynydd iâ enfawr tua 5,800 km2 o arwynebedd dorri'n rhydd o sgafell iâ Larsen C Antarctica gyferbyn â Phenrhyn yr Antarctig. Gallai'r rhan o'r môr a ddatgelwyd fod y digwyddiad arwyddocaol cyntaf i ddod dan delerau’r cytundeb rhyngwladol newydd.

Caiff gwyddonwyr gyfleoedd yn awr i astudio sefydlogrwydd y sgafell ia sy'n weddill, yn ogystal â deall sut mae cymunedau biolegol newydd yn anheddu'r môr sydd newydd ei ddatgelu a'r rhannau o wely'r môr oddi tano. Yn ôl Dr Phil Trathan a'i gydweithiwr Dr Susie Grant, bydd y digwyddiad ymrannu hwn yn rhoi cyfleoedd gwyddonol unigryw ar gyfer deall pa rywogaethau sy'n symud i mewn i'r môr agored a'r cynefinoedd gwely'r môr newydd hyn, ac ar ba gyfradd y mae cymunedau'n datblygu.

Mae gwaith arall gan Dr Trathanyn ymwneud â phengwiniaid yn Ne GeorgiaMae gwaith arall gan Dr Trathan yn ymwneud â phengwiniaid yn Ne GeorgiaMeddai Dr Trathan, Pennaeth Bioleg Gadwraethol:

“I'r rhan newydd hon o'r môr dderbyn gwarchodaeth dan y cytundeb CCAMLR diweddar, rhaid iddo gyflanwi'r meini prawf penodol y cytunwyd arnynt gan CCAMLR y llynedd. Os caiff ei bennu, byddai gweithgarwch pysgota masnachol am cril yr Antarctig neu Dissostichus mawsoni (toothfish yr Antarctig) wedi'i gyfyngu, gan roi cyfle gwerthfawr i astudio'r cynefinoedd newydd yn absenoldeb cynaeafu. Byddai'r warchodaeth gychwynnol wedi'i chyfyngu o ran amser tra bo gweithgarwch ymchwil cychwynnol yn cael eu trefnu gan y gymuned wyddonol ryngwladol, ond gellid ei ymestyn drwy gytundeb â CCAMLR.”

 

Mae Dr Philip Trathan wedi gweithio i'r British Antarctic Survey am 26 mlynedd. Ei brif waith fel Pennaeth Bioleg Gadwraethol, yw sicrhau bod gwyddoniaeth yn cyfrannu at bolisi a rheolaeth. Gweithiodd ar ddynodi'r Ardal Forol Warchodedig (MPA) gyntaf yn yr Antarctig, ac ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig Ynysoedd De Sandwich a De Georgia, un o'r ardaloedd Morol Gwarchodedig mwyaf a reolir yn gynaliadwy ym moroedd y byd sy'n sicrhau cytgord rhwng pysgota a chadwraeth.  Mae ganddo dair gradd o Brifysgol Bangor; graddiodd gyda BSc mewn Botaneg yn 1979, mae ganddo PhD mewn Ecoleg Poblogaeth Planhigion o 1983 a derbyniodd DSc am gyfraniad eithriadol at Wyddoniaeth yr Antarctig yn 2012.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017

Site footer