Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel

Casglu hylif o safle tirlwnwi sydd wedi ei chapio.Casglu hylif o safle tirlwnwi sydd wedi ei chapio.Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon.

Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI:  10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi. 

Meddai James McDonald,  o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, a fu'n arwain yr ymchwil:

"Mae yna gryn symbyliad ar hyn o bryd i chwilio am ensymau newydd i wella prosesau trosi biomas.  Oherwydd y swm enfawr o ddeunyddiau gwastraff sydd ynddynt, ein damcaniaeth ydi bod safleoedd tirlenwi'n cynnwys sylweddau sydd heb eu harchwilio eto a all ddiraddio biomas.  Mae yna botensial mawr i adnabod ensymau newydd o bwysigrwydd ecolegol a biolegol." 

Mae cellwlos a lignin i'w cael yn naturiol mewn deunyddiau'n deillio o blanhigion ac yn cymryd mwy o amser i ddiraddio na chynhyrchion gwastraff eraill.  O ganlyniad i hyn lignin a cellwlos yw'r rhan fwyaf o wastraff tirlenwi.  Yn eu ffurf blanhigion, gellir eu defnyddio'n sail i gynhyrchu biodanwydd, a bydd adnabod ensymau mwy effeithiol ar gyfer y broses hon yn gwella'r cynnyrch o'r ffynhonnell hon.

Mae gwyddonwyr wedi bod yn chwilio ers nifer o flynyddoedd am yr ensymau mwyaf effeithiol sy'n dadelfennu'r cellwlos a lignin o fewn y ffibrau naturiol sydd ar ôl.  Y lle amlwg i chwilio fu yn rwmen defaid a gwartheg, sy'n bwyta glaswellt, ac ym mherfedd creaduriaid eraill sy'n bwyta planhigion, megis eliffantod a thermitiaid.  

Electron ficrograff o ficrobau o safle tirlenwi yn cytrefu a diraddio seliwlos.Electron ficrograff o ficrobau o safle tirlenwi yn cytrefu a diraddio seliwlos.Er syndod i lawer efallai, mae gan safleoedd tirlenwi lawer o'r un nodweddion â systemau treulio'r anifeiliaid hyn: maent yn fannau tywyll prin o ocsigen, gyda chynnwys cellwlos uchel.  Felly at safleoedd tirlenwi, sy'n 'systemau' wedi'u creu'n artiffisial, y trodd y grŵp hwn o wyddonwyr i chwilio am ensymau newydd sy'n diraddio planhigion.

Yn y papur mae'r awduron yn disgrifio sut y gwnaethant ddefnyddio'r hylif a geir mewn safleoedd tirlenwi fel ffynhonnell microbau i ddadelfennu cotwm. Fe wnaethant hefyd nid yn unig ddadansoddi'r teuluoedd o facteria, ond hefyd nodi pa facteria sy'n cynhyrchu grwpiau o ensymau i ddiraddio cellwlos.  

Meddai Emma Ransom-Jones, ymchwilydd ôl-ddoethurol  ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth:

"Bydd deall sut yn union mae'r cellwlos a'r lignin yn dadelfennu, a ffynonellau'r ensymau gweithredol yn y broses, yn ein galluogi i benderfynu ar ffyrdd i wella diraddio gwastraff mewn safleoedd tirlenwi a defnyddio hynny o bosib fel ffynhonnell i gynnyrch biodanwydd." 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Site footer