Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Sut mae pengwiniaid yn defnyddio swigod i nofio at wyneb y môr

Mae awgrym gan yr Athro Roger Hughes o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor am  lwybr swigod pengwiniaid wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Tachwedd 2012 o’r cylchgrawn National Geographic. Mae’n awgrymu bod y llwybr swigod a welir mewn lluniau tanddwr o bengwiniaid ymerodrol yn nofio at wyneb y môr yn cael ei gynhyrchu i leihau llusgiad.

Meddyliodd yr Athro Hughes am y ddamcaniaeth ddiddorol hon o sut mae pengwiniaid yn dod allan o’r dŵr wrth iddo wylio'r teledu. Arweiniodd hyn yn wreiddiol at bapur ymchwil yn dangos sut yn union y mae pengwiniaid yn llwyddo i wneud hyn. Dangosodd ei gydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Cork a Phrifysgol Dechnegol Denmarc bod y swigod aer bach a ryddheir o dan y plu yn iro’r pengwin fel y gall fynd ar ddigon o gyflymder i neidio allan o'r dŵr  i ben silff iâ.

Meddai’r Athro Hughes: "Roeddwn yn gwylio'r gyfres Blue Planet, a gwelais fod pengwiniaid ymerodrol bob amser yn cynhyrchu llwybr swigod  wrth iddynt godi i neidio allan o'r dŵr. Mae'r swigod yn edrych fel  llwybr awyrennau, rhywbeth yr oedd cynhyrchwyr y ffilm cartŵn, 'Happy Feet'  wedi sylwi arno hefyd a’i ddefnyddio wrth i’r pengwiniaid berfformio  dawns nofio gyda llwybrau swigod wedi’u cydamseru! Roedd fy ngwraig wedi bod yn sôn wrthyf am siwtiau nofio 'croen siarc' gyda gwead sy'n lleihau llusg, a meddyliais tybed a fyddai haen o swigod yn cael yr un effaith ar  bengwiniaid.”

Teitl llawn y papur yw: Drag reduction by air release promotes fast ascent in jumping emperor penguins-a novel hypothesis.
ac mae wedi ei gyhoeddi yn: Marine Ecology Progress Series Vol. 430: 171-182, 2011

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012

Site footer