Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Sut mae’r cranc yn bwrw ei gragen?

Mae'n debyg y byddai pysgotwyr ymhobman yn cytuno nad oes unrhyw abwyd gwell yn ei dymor na chranc sydd newydd fwrw ei gragen.  Yn ystod y tymor bwrw cragen nid oes unrhyw beth yn gweithio mor llwyddiannus, gan fod pysgod yn awchu am seigiau cranc meddal.  Fodd bynnag, rydym yn annhebygol o weld cranc yn colli ei gragen wrth i ni gerdded ar hyd ein traethau.

Bydd gwylwyr rhaglen BBC Springwatch ar 3 Mehefin am 8 o'r goch yn gallu gweld beth sy'n digwydd wrth i Cranc Gwyrdd Cyffredin.Cranc Gwyrdd Cyffredin. y traeth fwrw ei gragen.

Credir mai hwn yw'r tro cyntaf i granc gael ei ffilmio i ddibenion darlledu yn bwrw ei gragen. 

Llwyddodd criw Springwatch i ffilmio'r digwyddiad gyda chymorth gan arbenigwyr o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, fel un o gyfres o ddarnau byw o byllau creigiau a ffilmiwyd ym Mhrifysgol Bangor.

Ar gyfer yr olygfa o'r cranc yn bwrw ei gragen, cynghorwyd y criw gan yr Athro Simon Webster, arbenigwr ar ymddygiad crancod. 

Eglurwyd y broses gan yr Athro Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol:  "Yn aml mae'r bwrw cragen ei hun yn digwydd yn y nos, ychydig oriau ar ôl i grac cychwynnol ymddangos yng nghefn cragen y cranc.  Yna mae'n rhaid i'r cranc yfed swm sylweddol o ddŵr i wneud iddo chwyddo a hollti'r gragen ar hyd y crac.  Ar ôl bwrw ei gragen mae'r cranc yn feddal a llysnafeddog ac er y bydd y gragen newydd yn caledu dros y dyddiau a'r wythnosau dilynol, mae perygl iddo gael ei fwyta gan bysgod am yr ychydig ddyddiau cyntaf.  Mae arogl gwahanol ar y crancod yn ystod y broses a gellir gweld pysgod fel draenog y môr yn hela amdanynt yn gynnar yn y bore, wrth iddynt gael eu tynnu i'r dŵr bas ger y lan gan yr arogl."

Y ffilmio yn digwydd yn acwariwn yr Ysgol gwyddorau Eigion.Y ffilmio yn digwydd yn acwariwn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.Mae'r Athro Webster yn disgrifio'r gragen fel meddal a llysnafeddog i ddechrau, pan mae'r cranc yn dod i'r amlwg o'i hen gragen; yna mae'n mynd fel papur, cerdyn tenau ac yna cardfwrdd, cyn caledu yn y diwedd o fewn 3-4 wythnos.  Mae'r holl broses yn rhyfeddol o ystyried bod rhaid i gyhyrau'r cranc ymwahanu oddi wrth y gragen cyn y gellir ei bwrw. Felly, prin y gall y cranc symud cyn iddo fwrw ei gragen ac ni all symud rhyw lawer am ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad chwaith.

Fe wnaeth ymchwilydd o’r BBC Kristina Turner a'r dyn camera, Richard Kirby, dreulio 10 diwrnod i gyd yn ffilmio helbulon bywyd creaduriaid y môr mewn pyllau craig mewn acwariwm yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol.   Fe wnaeth y Swyddog Ymchwil, Dr Nick Jones, hefyd roi cyngor i'r tîm a darparu ystod eang o organebau môr a geir yn gyffredin mewn pyllau craig, a ffilmiwyd y rhain yn yr acwariwm yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, tra bu'r Athro Chris Richardson yn cynghori yn ystod sesiynau ffilmio ym Mae Trearddur ar Ynys Môn.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Site footer