Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Taith maes rhithiol i fyfyrwyr gwlyptir Bangor

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud ar draws y wlad, llwyddodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor fynd ar daith maes o amgylch Ynys Môn yn ddiweddar.

Ni thorrwyd unrhyw reolau ar bellhau cymdeithasol serch hynny am i'r daith maes gael ei chynnal yn rhithiol fel rhan o gamau'r brifysgol i symud at addysgu ar-lein dros gyfnod y coronafirws.

Roedd y 'daith maes rhithiol' yn rhan o fodiwl trydedd flwyddyn yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol, a drefnwyd gan yr Uwch Ddarlithydd Dr Christian Dunn.

Cyn i'r llywodraeth gynghori yn erbyn teithio ac annog pobl i weithio gartref, cerddodd Dr Dunn o gwmpas gwarchodfa natur genedlaethol Cors Erddreiniog yn Ynys Môn.

Tynnodd y gwyddonydd gwlyptir ffotograffau a ffilmio'r math o nodweddion y byddai wedi eu dangos i’w fyfyrwyr, petaent wedi bod yn ei gwmni.

Rai dyddiau'n ddiweddarach, ar ôl i ganllawiau'r llywodraeth dynhau, postiodd Dr Dunn y cynnwys ar stori Instagram i'w fyfyrwyr ei dilyn, a hynny ar yr un adeg a thros yr un cyfnod amser â'r daith.

Dywedodd Dr Dunn: “Pan symudodd Prifysgol Bangor i ddysgu ar-lein yn unig oherwydd y coronafirws, cafodd y teithiau maes y byddaf yn eu cynnal i'm myfyrwyr eu canslo wrth gwrs.

“Ond roeddwn yn benderfynol o gadw pethau mor ‘normal ’â phosib i’r myfyrwyr a doeddwn i ddim eisiau iddynt golli allan ar ran bwysig o’r modiwl.

“Felly ynghyd â llwyth o ddeunydd addysgu ar-lein pellach, penderfynais gyflwyno 'taith maes rhithiol' i un o'r lleoliadau y byddem wedi ymweld ag ef.

“Dydw i ddim yn dda iawn am ddefnyddio Instagram a dweud y gwir ond awgrymodd rhai o’m myfyrwyr y dylwn roi cynnig arno.”

“Roedd yn eithaf anodd cywasgu'r wybodaeth i ychydig eiriau gyda'r delweddau a’r fideos, ond gobeithio iddo roi blas i’r myfyrwyr o’r hyn y byddent wedi’i brofi ar y daith maes gwlyptir - heb y profiad o wisgo welis yn gorlifo,” ychwanegodd Dr Dunn.

Gellir gweld y daith maes rhithiol ar broffil Instagram Ysgol y Gwyddorau Naturiol: Instagram.com/Bangor.SNS

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2020

Site footer