Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ymchwilwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynllunio sut i ddatrys dirgelwch datblygiad rhywogaethau newydd o bysgod mewn llyn crater yn Tanzania

Mae tair rhywogaeth o bysgod cichlid yn esblygu o un ffurf hynafol yn Llyn Massoko yn Tanzania. Mae tair rhywogaeth o bysgod cichlid yn esblygu o un ffurf hynafol yn Llyn Massoko yn Tanzania. 'Dirgelwch y dirgelion' oedd disgrifiad Charles Darwin ohono: sut mae rhywogaethau newydd yn codi? Rydym yn deall llawer mwy erbyn hyn nag yn amser Darwin, wrth gwrs. Ond dim ond ers i wyddonwyr allu creu dilyniant DNA ar raddfa fawr yn rhad y gallwn obeithio deall sut mae'r broses yn gweithio ar y lefel fwyaf sylfaenol. 

Dyfarnwyd grant gwerth £250K gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor i astudio pysgod o lyn bach a ffurfiwyd mewn crater folcanig yn Tanzania. 

Dros gyfnod o ryw 40,000 o flynyddoedd, mae pysgodyn bach sy'n byw fel arfer mewn pyllau bas ac wrth ymyl afonydd wedi bod yn ymaddasu i fyw mewn llyn sydd dros 40m o ddyfnder.  Ochr yn ochr â physgod sy'n dal i edrych yn debyg i'w hynafiaid oedd yn byw mewn pyllau dŵr, mae dwy ffurf newydd wedi esblygu sy'n wahanol yn eu maint, eu diet, eu dewis o gynefinoedd, eu lliw, siâp eu cyrff, a siâp eu gên a'u dannedd. Mae un yn ffurf fechan sy'n bwydo yn y dŵr agored. Mae gwrywod yr amrywiad mawr sy'n byw ar waelod y llyn mewn dŵr dwfn yn las, mae'n debyg oherwydd na fyddai lliw melynfrown y ffurf dŵr bas yn weladwy mewn dŵr dwfn. 

Bydd dilyniant llawn y genom yn cael ei fapio ar gyfer 200 o bysgod, yn cynrychioli pob un o'r tair ffurf, a bydd y gwahaniaethau genetig yn cael eu cysylltu â'r gwahaniaethau mewn anatomeg, ymddygiad ac ecoleg.  Cynhelir yr astudiaeth hon ochr yn ochr â phrofion ar ymddygiad y pysgod yn acwariwm ymchwil Prifysgol Bangor; bydd y golau'n cael ei addasu i efelychu amodau dwr dwfn a dwr bas er mwyn cynnal profion ar ymddygiad paru a bwydo. 

Toriad tra'n hel pysgol allan yn y maes.Toriad tra'n hel pysgol allan yn y maes.Cynhelir yr astudiaeth gyda chymorth a chyngor gan gydweithwyr ym Mhrifysgolion Bryste, Caergrawnt, a Chaeredin, Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome a Sefydliad Ymchwil Pysgodfeydd Tanzania, a hefyd bydd dau fyfyriwr ol-raddedig o Fangor yn cyfrannu at y gwaith ynghyd â 12 (hyd yma) o fyfyrwyr israddedig, sydd wedi helpu i gasglu samplau yn y maes ac yn cynnal astudiaethau allweddol yn y labordy o dan oruchwyliaeth yr Athro Turner a Dr Alexandra Tyers sydd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014

Site footer