Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd.

Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn  naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.

Maent eisoes wedi dangos gwahanol lefelau o'r firws mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru, er bod y canfyddiadau hynny'n newid yn gyson. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl trwy samplu cyflym o samplau a gafwyd o weithfeydd trin dŵr gwastraff Cymru

Caiff yr ymchwil ei arwain gan yr Athro David Jones o Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol.

Mae’n egluro fel a ganlyn:

“Mae'n bwysig iawn gwybod ymhle a phryd mae heintiau COVID-19 yn digwydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithredu mesurau i reoli ei ledaeniad. Yn yr un modd, credaf ei bod yr un mor bwysig gwybod pryd mae'r afiechyd yn diflannu fel ein bod yn gwybod pryd i lacio'r cyfyngiadau, a hefyd os daw COVID-19 yn ei ôl, ymhle mae hynny'n digwydd."

“Gwyddom bellach fod COVID-19 yn mynd ar led o'r naill berson i'r llall trwy ddefnynnau respiradol pan fo pobl yn pesychu, a bod iddo hefyd nifer o symptomau a'r rheiny'n amrywio’n helaeth o'r naill berson i'r llall, er enghraifft twymyn, cur pen a pheswch. Symptom arall o COVID-19 yw poen gastroberfeddol sy'n digwydd mewn nifer o heintiau gan fod tystiolaeth hefyd y gall y feirws luosi yn y coluddion. Felly yn y bôn bob tro mae rhywun y mae COVID-19 arno'n mynd i'r toiled mae'n  trosglwyddo'r feirws i'r rhwydwaith carthffosydd. Er bod y feirws yn anweithredol ac yn ddi-heintus yn y rhwydwaith carthffosydd, a does dim risg i'r amgylchedd, gallwn fanteisio ar y sefyllfa i fesur faint o'r COVID-19 sydd mewn dinas neu dref gyfan."

Dros y 2 fis diwethaf bu Dŵr Cymru ac United Utilities yn cymryd samplau o'r dŵr sy'n mynd i'r gwaith trin dŵr ac yn mesur lefelau'r feirws marw o dan broject gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a ariennir fel project brys.

Daw'r canlyniadau'n gymharol sydyn, oddeutu 48 awr, a gall y tîm weld a yw nifer yr heintiadau ar gynnydd yn y gymuned, ac mae hynny yn ei dro'n rhoi rhybudd cynnar i'r gwasanaethau iechyd.

Mae'n addas iawn i ddinasoedd mawr gan mai dim ond un neu ddwy o ganolfannau trin dŵr gwastraff sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o ganolfannau trefol y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n cynnig un darlun integredig o filiynau o bobl mewn un sampl.

Mae’r Tîm o Ysgolion Gwyddorau Naturiol a Gwyddorau Eigion y Brifysgol bellach yn gobeithio ymestyn y project i weithio gyda chwmnïau dwr eraill er mwyn ehangu’r rhwydwaith monitro i ardaloedd eraill o’r DU ac i fwydo’r wybodaeth i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraethai Cymru a’r DU er mwyn gwarchod dinasyddion rhag Covid-19.


Gweler y cyhoeddiad gwreiddiol yma.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Site footer