Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

£4.9 miliwn o bunnoedd i hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol

Mae Prifysgol Bangor ar fin dechrau hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol fydd yn cael eu paratoi i fynd i'r afael â sialensiau planed o dan bwysau fel rhan o fenter £4.9m a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Wrth i economi'r byd ehangu, mae'r amgylchedd yn wynebu galw cynyddol i ddarparu ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu ac sy'n awchu am nwyddau, gwasanaethau a bwyd.

Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol yw 'Envision', un o 15 yn unig a gyllidir gan NERC ar draws y Deyrnas Unedig, dan arweiniad grŵp hynod lwyddiannus o sefydliadau ymchwil yn y Deyrnas Unedig, sy'n meddu ar yr adnoddau i roi i genhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen i wynebu sialensiau byd sy'n newid.   

Mae consortiwm Envision yn cynnwys adrannau prifysgol a sefydliadau ymchwil blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, dan arweiniad canolfan Amgylchedd Prifysgol Lancaster ac yn cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Nottingham, Canolfan Ecoleg a Hydroleg, Arolwg Daearegol Prydain a Rothamsted Research, yn ogystal â Phrifysgol Bangor.

Meddai'r Athro John Healey, Cyfarwyddwr Ymchwil Coleg y Gwyddorau Naturiol y Brifysgol:

"Mae gallu'r amgylchedd i ddarparu nwyddau a gwasanaethau economaidd o dan bwysau wrth i ni geisio bwydo poblogaeth y byd sydd ar gynnydd ac ehangu economi'r byd. Er mwyn cydbwyso'r anghenion hyn mae angen math o newydd o wyddonydd amgylcheddol, sydd yn meddu ar sgiliau arwain yn ogystal â gwybodaeth pwnc, sy'n gallu gweithio ar draws disgyblaethau a chefnogi busnes".

"Bydd angen i'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr gofleidio diwylliant a sialensiau astudiaethau amlddisgyblaeth, deall pwysigrwydd eu gwyddoniaeth i ymestyn gwybodaeth am sut mae system y ddaear yn gweithredu, a chymryd i ystyriaeth effaith eu hymchwil ar yr economi, ar bolisi ac ar arloesi."

Rydym wrth ein bodd ac yn teimlo'n gyffrous o gael ein dewis fel rhan o dîm o'r safon uchaf o brifysgolion a sefydliadau ymchwil gydag arbenigeddau cyd-gysylltiedig, ymchwil a chyfleusterau gyda'r goreuon yn y byd, hanes o ymwneud â byd busnes a'r llywodraeth ac ymrwymiad i hyfforddiant ôl-radd arloesol a chyffrous o'r ansawdd gorau, i gyflawni'r weledigaeth honno.

Bydd myfyrwyr yn elwa o'r canlynol: themâu ymchwil eang, mynediad at arbenigwyr gyda'r goreuon yn y byd, cysylltiadau agos â busnes, profiad gwaith perthnasol a hyfforddiant mewn arweinyddiaeth.

Bydd Envision yn recriwtio 60 o fyfyrwyr - 12 o fyfyrwyr PhD bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf – gan ddechrau ym mis Hydref 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013

Site footer