Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

A yw cynaeafu coedwigoedd yn cynyddu yn Ewrop?

•    Ymateb yn Nature yn bwrw amheuaeth ar honiadau astudiaeth ddadleuol
•    Dim ond cynnydd o 6% sydd wedi bod mewn cynaeafu coedwigoedd dros y blynyddoedd diwethaf, nid 69% fel yr adroddwyd gan Joint Research Centre y Comisiwn Ewropeaidd
•    Mae’r gwallau o ganlyniad i sensitifrwydd lloerenni ac aflonyddwch naturiol

A yw cynaeafu coedwigoedd yn cynyddu yn Ewrop? Ydy, ond dim cymaint ag yr adroddwyd fis Gorffennaf diwethaf mewn astudiaeth ddadleuol a gyhoeddwyd yn Nature.

Defnyddiodd yr astudiaeth Abrupt increase in harvested forest area over Europe after 2015, ddata lloeren i asesu gorchudd coedwigoedd a honnodd bod cynnydd sydyn o 69% wedi bod mewn cynaeafu coedwigoedd yn Ewrop o 2016. Awgrymodd yr awduron, o Joint Research Centre (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd fod y cynnydd hwn yn deillio o ehangu marchnadoedd coed a anogwyd gan bolisïau bioeconomi a bio-ynni'r Undeb Ewropeaidd. Sbardunodd y cyhoeddiad ddadl danbaid, yn wyddonol ac yn wleidyddol, gan fod Senedd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd yn trafod Strategaeth Goedwig yr UE ar ôl 2020.

Mewn ymateb a gyhoeddwyd yn Nature, Mae 30 o wyddonwyr o 13 gwlad Ewropeaidd wedi darganfod tystiolaeth sy'n bwrw amheuaeth ar gasgliadau astudiaeth y JRC. Yn Concerns about reported harvests in European forests, mae Palahí a chydweithwyr yn dangos bod y newidiadau cynaeafu mawr a adroddwyd gan y JRC yn deillio o wallau methodolegol. 

Mae'r gwallau hyn yn ymwneud â sensitifrwydd lloerenni’n gwella'n sylweddol dros gyfnod yr asesiad, yn ogystal â newidiadau i goedwigoedd oherwydd aflonyddwch naturiol - er enghraifft gwywo cynnar a choed yn disgyn oherwydd sychder a stormydd - yn aml yn cael eu priodoli'n anghywir i gynaeafau coed. 

Meddai Dr Marc Palahí, cyfarwyddwr yr European Forest Institute (EFI), a arweiniodd yr ymateb: “Yn y dyfodol dylid asesu gwybodaeth am goedwigoedd yn fwy gofalus, gan ystyried amrywiaeth eang o faterion a ffactorau methodolegol, cyn dod i gasgliadau brysiog. Mae hyn yn gofyn am gydweithrediad gwell yn ogystal â dulliau gwyddonol cadarn a chyffredin rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a'r aelod-wladwriaethau i alluogi polisïau mwy gwybodus sy'n gysylltiedig â choedwigoedd yng nghyd-destun Bargen Werdd yr UE." 
“Dros y blynyddoedd, rydym wedi gwella yn ein gallu i nodi colled mewn coedwigoedd” meddai Dr Ruben Valbuena o Brifysgol Bangor, a gyd-arweiniodd yr astudiaeth. Un o'r gwallau yn astudiaeth y JRC oedd tanamcangyfrif sut mae delweddau lloeren, a'r dulliau a ddefnyddir i'w dadansoddi, wedi gwella dros y cyfnodau roeddent yn eu cymharu. “Dim ond yn unol â phrotocolau caeth sy'n asesu gwallau y gellir defnyddio lloerenni, a rhaid gwahaniaethu’n well rhwng datgoedwigo ac achosion eraill o golled mewn coedwigoedd”, meddai.  
Meddai’r Athro Gert-Jan Nabuurs o Brifysgol Wageningen, prif awdur IPCC a gymerodd ran yn yr astudiaeth, “mae cynaeafu ar draws coedwigoedd Ewrop wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dim ond o 6%, nid y 69% a honnwyd gan astudiaeth y JRC. Mae hyn yn bennaf oherwydd adferiad economaidd cymedrol ar ôl dirwasgiad 2008-2012. Yr hyn sy'n wirioneddol drawiadol yw'r lefelau digynsail o aflonyddwch naturiol sydd wedi effeithio ar ein coedwigoedd mewn sawl rhan o'r cyfandir dros y blynyddoedd diwethaf." 

Mae goblygiadau'r gwallau a ganfuwyd gan Palahí a chydweithwyr yn berthnasol yn fyd-eang, gan fod llawer o astudiaethau sy’n rhoi gwybod i lunwyr polisi a chymdeithas yn gyffredinol am gyflwr coedwigoedd y byd yn seiliedig ar synhwyro o bell y dyddiau hyn. Mae dadansoddi cynhyrchion yn seiliedig ar ddelweddau lloeren yn  allweddol bellach, er enghraifft er mwyn deall faint o ddatgoedwigo sy’n digwydd yn fyd-eang, ac felly mae angen dulliau synhwyro o bell sy’n gadarn yn wyddonol i lunio polisïau mewn modd cadarn.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2021

Site footer