Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Academydd Prifysgol Bangor yn rhoi tystiolaeth arbenigol yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cyflwynodd academydd o Brifysgol Bangor dystiolaeth gerbron Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (1 Mawrth 2018). Mae’r Athro Barrie Johnson o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn arbenigwr rhyngwladol ar ddefnyddio technegau biolegol er mwyn echdynnu mineralau. Bu’n rhoi tystiolaeth ar sicrhau cyflenwad mineralau yn y DU.

Roedd ei dystiolaeth i’r Pwyllgor heddiw yn seiliedig ar ei gyfraniad i broject ymchwil o bwys yn y DU, yn ymchwilio dulliau o adennill cobalt. Mae’r project, a gyllidir gan y Natural Environment Research Council, yn anelu at gynyddu ymchwil, cloddio a phrosesau adennill sy’n gysylltiedig â cobalt yn y DU, gan fod cobalt yn fetel o bwys strategol ac economaidd.

Maes arbenigedd yr Athro Johnson yw ‘biogloddio’, techneg a ddisgrifiwyd gan gylchgrawn Scientific American Rhagfyr 2011 fel un o’r deg  syniad sydd â’r gallu i newid cwrs y byd. Mae biogloddio yn broses sy’n defnyddio organebau penodol sydd yn byw mewn amgylchedd eithafol, a enwir yn  "extremophiles", er mwyn echdynnu mineralau o greigiau.

Mae’r Athro Johnson yn ymchwilio amgylcheddau eithafol, lle y canfyddir y microbau hyn, ac yn eu haddasu er mwyn echdynnu mineralau gwerthfawr a fydd fel arall yn mynd yn wastraff, ac i ddatblygu datrysiadau biobeirianyddol newydd er mwyn adfer dyfroedd asidig  yn sgil cloddio ac ar gyfer dŵr gwastraff ôl-ddiwydiannol.

Mae Cobalt (Co) yn cael ei ddynodi yn elfen E-dechnoleg gan y National Environmental Research Council (NERC). Golyga hyn ei fod yn cael ei hystyried yn hanfodol ar gyfer cymdeithas carbon-isel a thechnolegol-flaengar. Dynodir Cobalt fel elfen allweddol gan Raw Materials Initiative yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhyrchir oddeutu 55,000 tunnell fetrig o Co ar draws y byd bob blwyddyn.  Cynhyrchir llai na 0.1 % o’r cyfanswm yma o fewn ffiniau Ewrop, er bod gwledydd Ewropeaidd yn defnyddio 30 % o’r cobalt a gynhyrchir yn fyd eang.

Mae cronfeydd cobalt yn Ewrop nad ydynt yn cael eu defnyddio, yng Ngwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Macedonia a Kosovo, ond mae eu hadennill a’u hechdynnu yn broblemau sydd angen eu datrys.

Ynhlith y prif broblemau sy’n rhwystro adennill Cobalt o fwynau copr sylffid drwy ddefnyddio dulliau confensiynol yw’r rhai hynny sy’n peri i’r mwyn ‘arnofio’. Mae cynnydd diweddar mewn biobrosesu mwynau a mineralau dwys wedi dangos potensial ar gyfer technegau newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2018

Site footer