Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Arbenigedd Bangor mewn ‘technoleg a fydd yn newid y byd’

Gloddfa Escondia, yn niffeithdir yr Atacama, Chile, un o loddfeydd copr mwya'r byd- sydd i weld o'r orsaf ofod.Gloddfa Escondia, yn niffeithdir yr Atacama, Chile, gloddfa gPyllau llawn copr (a gynhyrchwyd gan facteria) yng Ngloddfa Gopr Bingham, Utah -  y mae'n bosib ei weld o'r orsaf ofod.Pyllau llawn copr (a gynhyrchwyd gan facteria) yng Ngloddfa Gopr Bingham, Utah - y mae'n bosib ei weld o'r orsaf ofod.opr mwya'r byd.Mae maes ymchwil y mae Bangor yn arwain ynddo ar raddfa fyd-eang yn cael ei ddisgrifio fel un o’r deg syniad a allai newid y byd, yn rhifyn y mis hwn (Rhagfyr) o’r Scientific American.

Mae’r dechnoleg yn cael ei galw’n ‘bio-fwyngloddio. Ynddi, mae bacteria a micro-organebau eraill yn cael eu harneisio i echdynnu metelau gwerthfawr fel copr, nicel ac aur o fwynau. Mae’r dull hwn yn galluogi cwmnïau cloddio i echdynnu metelau o ddeunyddiau sy’n cynnwys metelau ond yn anodd eu prosesu trwy ddulliau confensiynol (y rhan fwyaf yn rhostio’r mwynau mewn mwyndoddydd), neu’n cynnwys cyn lleied fel eu bod, fel arall, yn rhy ddrud i weithio â hwy, ac felly’n cael eu lluchio fel rwbel. Mae bio-fwyngloddio bacteria hefyd â’r fantais fod modd defnyddio’r bacteria i lanhau llygredd a achoswyd gan weithgareddau cloddio hanesyddol, ac mewn rhai sefyllfaoedd, gellir echdynnu mwy o fetelau gwerthfawr o hen ddeunyddiau gwastraff o fwyngloddio.

Mae bio-fwyngloddio’n cael ei ystyried yn ‘dechnoleg werdd’ a fydd yn gynyddol bwysig mewn blynyddoedd i ddod, gan ei fod yn osgoi llawer o’r costau ynni ac ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â mwyngloddio confensiynol. Er bod mwyngloddio â bacteria yn llawer mwy araf na rhostio mwynau, mae’r bacteria yn ‘gweithio am ddim’, ac yn defnyddio’r ynni sydd i’w gael yn y mwynau eu hunain. Fel bonws ychwanegol, Mae’r bacteria yn cymryd carbon deuocsid o’r aer (fel planhigion gwyrdd) ac felly’n fodd i weithio yn erbyn problemau sydd y tu cefn i newid hinsawdd.

Yr Athro Barrie Johnson  o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yw’r awdurdod sy’n cael  ei ddyfynnu yn yr erthygl yn Scientific American.

Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio â dau o brif gwmnïau cloddio’r byd i lunio strategaethau newydd i echdynnu metelau o’r gwaddodion mwynau enfawr yn Awstralia a De America, nad oeddynt o’r blaen yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer bio-fwyngloddio. Mae hefyd yn gweithio â systemau biolegol newydd a all nid yn unig drin dyfroedd llygredig sy’n draenio o hen fwyngloddiau, ond a all hefyd adennill metelau o’r dyfroedd ar ffurf fel y gellir eu hailgylchu. Mae’r dechnoleg hon yn ei dyddiau cynnar ac efallai y bydd yn cymryd 20 mlynedd neu fwy i gael ei defnyddio ar raddfa eang. Mewn byd sy’n gofyn am fwy a mwy o fetelau o adnoddau  sy’n lleihau’n fyd-eang, mae defnyddio datrysiad biolegol i echdynnu ac adennill mwynau’n dod yn fwyfwy atyniadol.

Meddai’r Athro Johnson, “Fel y mae’r byd yn symud tuag at gymdeithas sy’n llai dibynnol ar garbon, mae’n rhaid i ni ymchwilio i ffyrdd eraill o wneud pethau nad ydynt mor ddibynnol ar ynni a’u bod yn fwy naturiol. Dyna yw’r nod tymor hir o harneisio microbau yn y broses o fwyngloddio, ac mae pethau’n dechrau symud yn braf i’r cyfeiriad yna.”

Mae’r Athro Johnson yn gweithio gyda gwyddonwyr a diwydianwyr mewn nifer o rannau o’r byd, gan gynnwys De a Gogledd America, Asia, Affrica ac Ewrop, ac mae wedi bod yn ymgynghorydd ar fio-fwyngloddio i’r Asiantaeth Ryngwladol dros Ynni Atomig. Mae  wedi datblygu nifer o’r bacteria a ddefnyddiwyd o fannau folcanig a geothermol, fel ynys Garibïaidd Montserrat a Pharc Cenedlaethol Yellowstone, yn ogystal â hen fwynfeydd, gan gynnwys Mynydd Parys (Ynys Môn).

Mae papur academaidd gan yr Athro Johnson a chydweithwyr iddo, yn cynnwys Kevin Hallberg o Brifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Arbenigedd Blynyddol Hatch  ar gyfer y Papur Technegol Gorau. Mae Hatch  yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr ac yn darparu gwasanaethau amlddisgyblaethol a phroffesiynol sy’n darparu gwasanaethau rheoli, peirianneg ac adeiladu, ymgynghori ar broses a busnes i’r diwydiannau mwyngloddio, metelegol, ynni ac isadeiledd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2011

Site footer