Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

BANGOR YN Y 15 UCHAF MEWN TABL CYNGHRAIR CYNALIADWYEDD

Mae Prifysgol Bangor wedi dod yn 15fed yn yr UI Green Metric World University Rankings blynyddol, sy'n asesu cannoedd o sefydliadau addysg uwch ledled y byd am eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’r brifysgol hefyd wedi dod yn drydydd ymhlith prifysgolion y Deyrnas Unedig a'r uchaf ymhlith prifysgolion Cymru.    

Yr UI Green Metric World University Rankings diweddaraf, a gynhyrchwyd gan Universitas Indonesia, yw'r unig restr yn y byd o brifysgolion sy'n mesur ymrwymiad pob prifysgol sy'n cymryd rhan i ddatblygu seilwaith 'cyfeillgar i'r amgylchedd'. Cymharodd y Green Metric 956 o brifysgolion mewn 80 o wledydd ar eu hymdrechion mewn chwe chategori, yn cynnwys lleoliad a seilwaith, ynni a newid yn yr hinsawdd, gwastraff, dŵr, trafnidiaeth ac addysg.    

 Mae'r perfformiad rhagorol hwn yn dilyn llwyddiant diweddar y Prifysgol Bangor yn y People & Planet Green League.   

Dros nifer o flynyddoedd, mae Prifysgol Bangor wedi dangos ei hymrwymiad i gynaliadwyedd ac amgylchedd cynaliadwy, a chaiff yr ymrwymiad hwn ei ategu ymhellach eleni trwy strategaeth gynaliadwyedd newydd, sydd i’w chyhoeddi erbyn mis Chwefror 2022. Bydd y strategaeth hon yn hybu 'cynaliadwyedd' ar draws holl agweddau o waith y brifysgol.  

Meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor a Chadeirydd Grŵp Strategaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor: “Dyma newyddion gwych, sydd hefyd yn gymeradwyaeth bellach, ar fetrig sy’n arwain y byd, o ymrwymiad Prifysgol Bangor at wneud cynaliadwyedd yn rhan annatod o’n sefydliad. Mae hyn yn amlwg yn ein gweithgareddau pob dydd, yn ein dysgu, ac wrth gwrs yn ein hymchwil. Nid yw tablau cynghrair erioed wedi bod yn sbardun i’n hamcanion cynaliadwyedd, ac rydym yn gwybod bod llawer mwy o bethau y gallwn ac y byddwn yn eu gwneud i wella eto. Serch hynny, mae'n braf cael ein cydnabod fel un o'r goreuon yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd”.  

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2022

Site footer