Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Biotechnoleg ar gyfer Plaleiddiaid

Mae Prifysgol Bangor ar y cyd â chwmnïau Almac Group a Hockley International wedi ennill grant i ddatblygu plaleiddiad organig.  Cychwynnir y gwaith yng Ngholeg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol a labordai Almac yng Ngogledd Iwerddon fis Medi.

Y project hwn fydd project cyntaf y Coleg ym maes Bioleg Synthetig (bioleg wedi'i seilio ar ddefnyddio ensymau) a bydd yr ymchwil yn dod â £0.5M i Brifysgol Bangor dros 3 blynedd.  Cyllidir yr ymchwil hon, sy'n werth £1.25M, drwy'r Biotechnology & Biological Sciences Research Council a'r Technology Strategy Board a'i nod yw dod â phlaleiddiad naturiol newydd i'r farchnad a gynhyrchir drwy ddefnyddio olew naturiol.  

“Yn y project hwn bydd cydweithio agos rhwng Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, y Ganolfan Biogyfansoddion a 2 bartner masnachol - Almac a Hockley International,” eglurodd Dr Viacheslav Tverezovskiy, sy'n arwain yr ymchwil o'r Ganolfan Biogyfansoddion.  

Mae esblygiad naturiol wedi darparu ystod eang o ensymau i ficrobau i'w galluogi i drosi llawer o fiofoleciwlau sydd ar gael ym myd natur. Yn ystod y project hwn bydd yr Athro Peter Golyshin a Dr Tran Hai o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor yn defnyddio ensymau microbaidd i gynhyrchu cyfansoddion bioactif o borthiant rhad.

Meddai'r Athro Tom Moody, Pennaeth Biocatalysis a Chemeg Isotopau yn Almac, "Mae'r project yma'n ein galluogi i ychwanegu at yr arbenigedd a phrofiad sydd gennym ac yn ymochrol gydag ein strategaeth o ddatblygu technoleg ensymau arloesol. Bydd tîm o wyddonwyr yn ein pencadlys yn cydweithio gyda Bangor a Hockley ac rydym wedi cyffroi i fod yn rhan o'r project unigryw yma. Bydd y datblygiad o dechnoleg ensymau penodol yn cyfoethogi'r nid yn unig y project, ond technoleg ym Mhrydain."  

Ychwanegodd Frank Howard, Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog Hockley International, "Mae Hockley wedi gweithio gyda'r tîm cyfeillgar a phroffesiynol yn y Ganolfan Biogyfansoddion am bedair blynedd ar broject KTP mawr a rhai cynlluniau ymchwil llai.  Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau project mawr newydd tair blynedd mewn bioleg synthetig gyda Bangor ac Almac, ac yn sicr bydd hwn yn gyfnod cyffrous a heriol yn wyddonol i ni i gyd."

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Site footer