Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canolfan ymchwil newydd i astudio problem gynyddol gwastraff plastig

Strwythur datrysedig ensym o facteria  sydd yn diraddio plastig morol.Strwythur datrysedig ensym o facteria sydd yn diraddio plastig morol.Mae Canolfan ymchwil newydd wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor i astudio problem gynyddol gwastraff plastig. Canolfan Ymchwil Plastig Cymru (PRC Cymru) yw'r cyntaf o'i bath yn y wlad ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o academyddion, myfyrwyr, sefydliadau a diwydiannau.

Daeth Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith Prifysgol Bangor, yr Athro David Thomas, â’r grŵp ynghyd ar ôl sylweddoli bod llawer o wyddonwyr yn y brifysgol eisoes yn ymchwilio i wahanol agweddau ar wastraff plastig.

“Roeddem yn teimlo ei bod yn bryd ychwanegu ein pwysau academaidd sylweddol at y frwydr yn erbyn llygredd plastig,” meddai’r Athro Thomas.

“Rydyn ni wedi dod â grŵp gwych o ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o Brifysgol Bangor, ond nid ymchwil yn unig yw PRC Cymru; mae pawb sy'n ymwneud â'r ganolfan yn angerddol am fynd i'r afael â'r hyn y mae David Attenborough yn ei ddisgrifio fel “trychineb sy'n datblygu”.

Dr Christian Dunn yn hel sampl o ddŵr croyw i'w brofi am ficroblastigion.Dr Christian Dunn yn hel sampl o ddŵr croyw i'w brofi am ficroblastigion.Rydyn ni eisiau i PRC Cymru fod yn ganolbwynt gwybodaeth go iawn i unrhyw un, o'n myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, i aelodau'r cyhoedd, busnesau a llunwyr polisi.”

“Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc hwn i gysylltu â ni,” ychwanegodd yr Athro Thomas.

Ymhlith y prosiectau sy'n digwydd yn y brifysgol mae gwaith gan yr Athro Golyshin ac eraill yn y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) yn edrych ar sut mae microbau'n cysylltu eu hunain â phlastigau. Mae ymchwil gan Grŵp Gwlypdiroedd Bangor, dan arweiniad Dr Christian Dunn - gyda chefnogaeth Cyfeillion y Ddaear, Surfers Against Sewage a Laura Sanderson o We Swim Wild - yn edrych ar bresenoldeb microblastigion yn nyfroedd mewndirol y Deyrnas Unedig a Pharciau Cenedlaethol, ochr yn ochr â datblygu ecosystemau gwlypdir i dynnu gronynnau plastig o'n dyfrffyrdd.

Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn cyfrannu trwy eu gwaith yn ymchwilio i ddewisiadau amgen i becynnu plastig. Y newyddion diweddaraf yw eu cyfraniad at ddatblygu deunyddiau pecynnu ddi-blastig sydd yn defnyddio mwydion coed helyg.

Bydd gwyddonwyr sy'n arwain y byd fel yr Athro Davey Jones, Dr Adam Charlton, yr Athro Simon Neill a Dr Peter Robins yn parhau â'u gwaith arloesol yn mapio symudiad microblastigion mewn priddoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol, gan edrych i mewn i'r effeithiau y mae plastig yn Bocsus wyau  a wnaed gan ddefnyddio gwastraff rhygwellt gan Ganolfan BioGyfansoddion ac sydd ar werth mewn archfarchnad fawr.Bocsus wyau a wnaed gan ddefnyddio gwastraff rhygwellt gan Ganolfan BioGyfansoddion ac sydd ar werth mewn archfarchnad fawr. cael ar organebau a chynefinoedd a chreu defnyddiau ar gyfer plastig gwastraff.

Mae ymchwiliadau gyrfa gynnar hefyd yn rhan annatod o PRC Cymru. Ynghyd â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, fel Jedd Owens a Luke Fears, mae myfyrwyr PhD fel Nia Jones - sy'n edrych o ble mae'r plastig yn ein moroedd o amgylch Cymru yn dod ac i ble mae'n mynd.

Gallwch ddarganfod mwy am PRC Cymru trwy fynd i plastics.bangor.ac.uk, e-bostio plastic@bangor.ac.uk neu ddilyn y Ganolfan ar Twitter yn @PRCWales.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2020

Site footer