Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Celloedd Canser yn dewis y dull "blêr a brysiog"

Prif nodwedd canser yw twf afreolus celloedd wedi ei ysgogi gan beiriant cylch celloedd sydd wedi mynd yn wyllt. Prif gydran y peiriant hwn yw'r ensym Cdc2 cinas. Mae Cdc2 cinas wedi ei reoleiddio'n dynn mewn celloedd normal, mae'r rheolaeth yma ar goll mewn celloedd canser.

Mae ymchwil flaengar a wnaed ym Mhrifysgol Bangor yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin wedi darganfod bellach bod Cdc2 cinas gorfywiog nid yn unig yn gorfodi celloedd i luosi mewn ffordd afreolus ond hefyd yn ail-raglennu’r gwaith o drwsio cromosomau sydd wedi torri. 

Mae arweinydd y tîm  Dr Thomas Caspari yn egluro:

“Pan fydd cromosom yn torri, gall celloedd dynol ei drwsio'n ddiogel, sy'n cymryd amser, neu'n gyflym, a allai arwain at gamgymeriadau.  Mae ein gwaith wedi datgelu bod yn well gan gelloedd gyda Cdc2 cinas gorfywiog y dull 'blêr a brysiog' na'r dewis diogel.  Gallai'r darganfyddiad cyffrous hwn egluro pam mae celloedd canser yn aml yn cysylltu pennau anghywir cromosomau sydd wedi torri, proses sydd yn hybu twf tiwmorau."

Adroddir am y canfyddiadau yn rhifyn mis Mehefin o'r cyfnodolyn dylanwadol Nucleic Acid Research a gyhoeddir gan Oxford University Press.

Meddai Dr Thomas Caspari:

“Ni fuasai'r ymchwil gyffrous hon yn bosib heb gefnogaeth hael gan Gronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, elusen sydd â'i phencadlys yn Lerpwl, a chan lywodraeth Libya, sy'n cefnogi'r awdur arweiniol  Mr Salah Adam Mahyous Saeyd. Mae'n dangos hefyd pa mor rhyngwladol yw ymchwil ym Mhrifysgol Bangor gan fod y ddau fyfyriwr arall a gyfrannodd at y gwaith yn dod o Wlad Pwyl a Tsieina."

Mae'r llawysgrif ar gael am ddim ar dudalen gartref Nucleic Acid Research .

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Site footer