Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cenynau a Chynffonnau

I gydfynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor poblogaidd y Brifysgol, mae  Storiel wedi dadorchuddio’i harddangosfa newydd sydd i’w gweld yng nghyntedd Storiel ar y thema o ymlusgiaid.

Nadroedd, crocodeiliaid a chrwbanod yw rhai o’r sbesimenau i’w gweld sydd ar fenthyg o Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor. Mae nifer o’r sbesimenau mewn jariau o hylif a dal yn cael eu defnyddio ar gyfer dysgu. Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Melissa Green, myfyrwraig sŵoleg wirfoddol, a bydd mewn lle tan diwedd mis Awst.

Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol trwy ‘r prosiect ‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’ sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Treftadaeth Loteri. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2017

Site footer