Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Coedwigwyr Bangor yn Alpau'r Eidal

Dysgwyr o bell o Fangor (o'r chwith i'r dde) Simon Moller, Sean Hoskins a Peter Comerford yn edrych ar goedwigaeth sy'n gwarchod rhag tirlithriadau.Dysgwyr o bell o Fangor (o'r chwith i'r dde) Simon Moller, Sean Hoskins a Peter Comerford yn edrych ar goedwigaeth sy'n gwarchod rhag tirlithriadau.Cafodd graddedigion a myfyrwyr coedwigaeth Prifysgol Bangor brofiad o reoli coedwigoedd alpaidd o safon uchel ar ymweliad â rhanbarth Piedmont yn yr Eidal ar daith astudio dramor.

Bu taith gyfunol Grŵp Coedwigaeth Gorchudd Di-dor / Pro Silva Iwerddon yn canolbwyntio ar goedwriaeth serth yn yr Alpau ac fe'i cynhaliwyd gan Pro Silva yr Eidal.

Roedd tua 10 o'r 30 a fu ar y daith astudio'n fyfyrwyr cyfredol neu'n gyn-fyfyrwyr coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn hanu o'r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Denmarc a Seland Newydd. Ymhlith cyn-fyfyrwyr Bangor roedd coedwigwyr preifat, coedwigwyr y Comisiwn Coedwigaeth a choedwigwyr gwladwriaeth Iwerddon.

Ymwelodd y daith â nifer o safleoedd yn Piedmont a Dyffryn Aosta lle defnyddir arferion coedwriaeth gorchudd di-dor i ddarparu amryw o wasanaethau ar dir serth iawn.

Mewn system o goed llarwydd/porfa goediog roedd y gwartheg yn pori o dan goed aeddfed ond caent eu cau allan o'r ardaloedd lle'r oedd y coed yn adfywio'n naturiol, er mwyn i'r rheiny gael tyfu i'w llawn dwf heb ddim anifeiliaid yn pori. Mae'r goedwig hefyd yn gwarchod y pentrefi islaw rhag tirlithriadau ac mae yno rediadau sgïo yn y gaeaf a llwybrau beicio mynydd yn yr haf.

Creodd y dechneg gryn argraff ar gyn-fyfyriwr dysgu o bell MSc coedwigaeth  Prifysgol Bangor, Jonathan Spazzi, sy'n goedwigwr wrth ei alwedigaeth ac yn aelod o Pro Silva Iwerdon.  

Coed llarwydd tal sy'n ymgorffori arferion pori traddodiadol.Coed llarwydd tal sy'n ymgorffori arferion pori traddodiadol.“Roedd hi'n braf gweld technegau rheoli coedwigoedd traddodiadol yn fyw ac yn llwyddo ac yn rhan o'r gymdeithas fodern a choedwriaeth fodern,” meddai.

Dywedodd Sean Hoskins, dysgwr o bell MSc coedwigaeth cyfredol ym Mhrifysgol Bangor, ei bod hi'n wych gweld cymaint o goedwigwyr Bangor ar y daith:

“Mae'n brawf o safon ac enw da rhaglenni meistr coedwigaeth Prifysgol Bangor bod cymaint o fyfyrwyr blaenorol a phresennol wedi dod ar y daith i ddysgu am y math o systemau coedwigaeth arloesol a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yng nghyfnod y newid yn yr hinsawdd.”

Dywedodd James Walmsley, Darlithydd mewn Coedwigaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol:

“Mae cymaint o gyfleoedd i fyfyrwyr coedwigaeth wella eu dysgu a'u profiad.  Rwyf wrth fy modd bod y myfyrwyr presennol a'r cyn-fyfyrwyr wedi gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfle arbennig hwn i deithio i'r Alpau.  Rhaid cyfaddef rwy'n genfigennus iawn! 

Mae Prifysgol Bangor ymhlith y pum lle gorau yn y DU i astudio Coedwigaeth, yn ôl Tablau Cynghrair Prifysgol 2020 y Guardian.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2019

Site footer