Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croesawu Darlithwyr Newydd i Brifysgol Bangor

Marian Pye, Sara Wheeler ac Awel Vaughan-EvansMarian Pye, Sara Wheeler ac Awel Vaughan-EvansUnwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.

Un sy’n awyddus i ymgymryd â’r gwaith addysgu ac ymchwilio yw Dr Sara Wheeler o Wrecsam gafodd ei phenodi fel Darlithydd Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor:

‘‘Rwy’n benderfynol o sicrhau fod cyfle cyfartal yn bodoli rhwng y cyfrwng Saesneg a’r cyfrwng Cymraeg. Mi fydd hyn yn golygu gwaith cyfieithu a chreu adnoddau newydd, a hefyd cyhoeddi erthyglau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.’’

Marian Pye o Langefni sydd wedi’i phenodi i swydd ddarlithio ym maes Sŵoleg a’i gobaith yw ehangu ar y ddarpariaeth gref sydd eisoes yn bodoli o fewn yr adran.

Awel Vaughan-Evans o Gellifor fydd yn addysgu ym maes Seicoleg, a hynny ar ôl cwblhau cwrs seicoleg israddedig ac ôl-raddedig yn y brifysgol.

Un arall dderbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Edward Thomas Jones o Fodedern sydd wedi derbyn darlithyddiaeth ym maes Economeg.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Roeddem yn falch o fedru cefnogi penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu adnoddau a denu darpar fyfyrwyr i’w priod feysydd dros y blynyddoedd nesaf.’’

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015

Site footer