Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cylchdroi cnydau gyda ffa a phys yn gwneud cynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy a maethlon

Mae ychwanegu mwy o godlysiau, fel ffa, pys a chorbys, at gylchdroi cnydau Ewropeaidd, yn gallu rhoi buddion o ran maeth a’r amgylchedd, yn ôl astudiaeth ddiweddar. Mae'r awduron yn defnyddio dull cyntaf o'i fath i ddangos y byddai tyfu mwy o godlysiau yn sicrhau gwerth maethol uwch am gostau amgylcheddol ac adnoddau is. Mae hyn yn rhoi tystiolaeth ychwanegol i strategaethau gyrraedd targedau amgylcheddol brys yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae tyfu mwy o godlysiau, fel ffa a chorbys, o bosibl yn ddull mwy cynaliadwy a maethlon o amaethyddiaeth Ewropeaidd, yn ôl astudiaeth newydd yn Frontiers in Sustainable Food Systems. Mae'r astudiaeth hon yn cyflwyno peth o'r dystiolaeth gyfannol gyntaf bod ychwanegu codlysiau at gylchdroadau cnydau traddodiadol (gan gynnwys haidd, gwenith a hadau rêp yn nodweddiadol) yn cynnig buddion amgylcheddol sylweddol yn ogystal â mwy o werth maethol i bobl a da byw. 

“Gall y strategaeth hon gyfrannu’n sylweddol at amcanion penodol ‘O’r Pridd i’r Plât’ Bargen Werdd yr Undeb Ewropeaidd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnyddio plaladdwyr cemegol a defnyddio gwrtaith synthetig,” meddai’r awdur cyntaf, Marcela Porto Costa, o Brifysgol Bangor. “Er enghraifft, yn yr Alban, rydyn ni wedi dangos bod cyflwyno cnwd codlysiau i'r cylchdro nodweddiadol wedi lleihau gofynion nitrogen allanol bron i hanner, gan gynnal yr un allbwn o fwyd wedi'i fesur o ran maeth dynol posib.”

Mae angen y nitrogen maethol critigol ar bob cnwd er mwyn tyfu ac, ar gyfer mwyafrif y cnydau, rhaid i ffermwyr ddarparu nitrogen trwy wrteithiau. Fodd bynnag, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg nad yw gwrteithiau confensiynol yn gynaliadwy - mae angen ynni sylweddol arnynt i'w cynhyrchu, maent yn disbyddu adnoddau y mae pen draw iddynt, ac maent yn llygru'r amgylcheddau cyfagos. 

Nod strategaeth ‘O’r Pridd i’r Plât’ yr Undeb Ewropeaidd yn benodol yw mynd i’r afael â’r broblem hon, gyda nodau i gwtogi’r defnydd o blaladdwyr cemegol 50% a chwtogi ar allyriadau tŷ gwydr, ynghyd â lleihau defnydd gwrtaith synthetig 20% erbyn 2030. Mewn cyferbyniad â mathau eraill o gnydau, mae codlysiau ymhlith yr unig gnydau sy'n gallu cael yr holl nitrogen sydd ei angen arnynt yn syml o'r awyr o'u cwmpas. Mae hyn diolch i bartneriaeth symbiotig gyda bacteria sy'n trawsnewid nitrogen yn yr awyr i ffurf y gall planhigion ei defnyddio. 

Nid oes angen gwrtaith ar gnydau codlysiau eu hunain, a hefyd maent yn cyfoethogi'r pridd â nitrogen, gan leihau'r angen am wrteithiau nitrogen ar gyfer cnydau yn y dyfodol nad ydynt yn godlysiau. O safbwynt maethol, mae codlysiau hefyd yn un o'r cnydau sy’n cynnwys y mwyaf o faetholion, gan ddarparu protein, ffeibr, ffolad, haearn, potasiwm, magnesiwm a fitaminau. 
Mae dull newydd Costa a'i chydweithwyr yn fwy cynhwysfawr na chyfrifiadau blaenorol o olion traed amgylcheddol, oherwydd ei fod yn cymharu 10 dilyniant cnwd gwahanol gan ddefnyddio 16 categori effaith gwahanol. Mae eu hasesiad hefyd yn cynrychioli amserlen o 3 i 5 mlynedd a thair hinsawdd Ewropeaidd wahanol yn yr Eidal, Rwmania a'r Alban. 

“Mae ein dull arloesol yn mynd y tu hwnt i olion traed bwyd syml trwy edrych ar ôl troed cyflenwi swm penodol o faeth i bobol, neu dda byw, o'r holl gnydau a gynhyrchir mewn cylchdroadau cnydau cynrychioliadol,” meddai Dr David Styles, a gydlynodd yr astudiaeth ac sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Limerick yn Iwerddon. “Mae hyn yn rhoi darlun cliriach o effeithiau rhyng-gnydio ac effeithlonrwydd cyffredinol gwahanol ddilyniannau cnydio wrth gyflenwi bwyd maethlon (neu borthiant da byw).”

Hyd yn hyn mae'r dull hwn yn cyfrifo'r cyflenwad maethol posibl yn unig. Bydd faint o faeth a ddarperir yn y pen draw gan gylchdroadau gwahanol hefyd yn dibynnu ar sut mae bwydydd yn cael eu prosesu a'u gwerthu. Mae angen rhagor o ymchwil hefyd i ddatblygu gwell cyfrifiadau ar gyfer porthiant da byw. Mae'r tîm yn bwriadu ymestyn y dull hwn i fathau eraill o gylchdroi cnydau a hinsoddau a lleoliadau amaethyddol ychwanegol.  

“Mae ein canlyniadau’n cryfhau tystiolaeth ar y rôl gadarnhaol y gallai trawsnewidiadau iach i ddiet eu gwneud i gynaliadwyedd amgylcheddol,” meddai Styles. “Mae codlysiau’n darparu cydbwysedd iachach o garbohydradau, protein a ffibr o’i gymharu â chnydau grawnfwyd, a gallent wella proffil maethol y bwyd rydyn ni’n ei fwyta.”

“Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn tynnu sylw at yr angen i feddwl am y system gyfan (aml-gnwd, fferm-i-fforc) wrth lunio ymyriadau i weithredu systemau bwyd cynaliadwy, fel y gallwn ddarparu gwell maeth wrth leihau effeithiau amgylcheddol,” ychwanega Costa. 

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2021

Site footer